Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GE N I N E N; %ícírgraíuit feẁfeciíjd, Rhif i.] IONAWR, 1888. [Cyf. VI. Y DIWEDDAR BARCH. LEWIS EDWARDS, D.D. RHAI SYLWADAU AR EI WASANAETH A'I DDYLANWAD. Diau fod cenedl y Cymry, ar dderbyniad y newydd athrist am farwolaeth Dr. Edwards, yn ystyried fod un 0 oreugwyr y ganrif wedi cwympo. Dichon r.a welwyd yn nghof neb sydd fyw arwyddion teimlad mor gyffredinol 0 golled, oblegid edrychid ar y gwrthddrych fel trysor cenedl yn hytrach nag fel addurn enwad. Trwy roddi y fath wasanaeth am oes mor faith i un cyfundeb, gwasan- aethwyd hefyd genedl gyfan yn y modd mwyaf effeithiol. Dichon y gwelwyd yn Nghymru rai gwyr mwy cenedlaethol mewn ambell ystyr; rhai yn troi mewn cylchoedd eangach, ac yn apelio yn fwy mynych at yr holl genedl trwy y naill gyfrwng neu y líall ; y rhai nad allai terfynau un enwad gynwys eu cyd- ymdeimlad, neu ddarpar maes digon eang i'w gweithgarwcb. Eu maes oedd ÿ genedl gyfan, neu ddim : " Cymru benbaladr'; oedd eu harwyddair. Nid un felly yn hollawl oedd Dr. Edwards. Gallai ei fod, oddiar ei wyleidd-dra natur- iol a'i duedd fyfyrgar, yn brin o asbri cyhoeddus. Mae yn sicr nad oedd gan- ddo flas ar ddadwrdd cynnadleddau. Oblegid hyny gadawai lywyddiaeth aml achos yn nwylaw ffyddloniaid eraill, gan gywir farnu fod mwy nag un ffordd o fyw bywyd defnyddiol. Diau ei fod yn credu fod y gwasanaeth uchaf 0 gwbl i'w gyflawni mewn neillduaeth; mai trwy fyfyr dwys mewn dirgel fanau y gos- odir i lawr sylfaen pob mawrwaith. " Ÿna y torodd efe saethau y bwa;" nid ar faes y frwydr, yn swn bloeddiadau y rhyfelwyr ; ond yn nistawrwydd y cyssegr, mewn cymundeb tawel â'r Urim a'r Thummim. Gwaith y meddyliwr yn dad- enhuddo egwyddorion ydyw y gwaith pwysicaf, ac awgrym 0 hyny ydyw y ffaith mai dyma y gorchwyi anhawddaf hefyd. Gall y meddyliwr tawel gael ei esgeuluso yn nydd rhaniad yr yspail; yr ymdrechwyr cyhoeddus a dderbyn- iant glodydd y lluaws, efallai; ond daw amser pan ddeuir i gydnabod y rhan bwysicach a gymerodd y meddylwyr yn y symudiad, ac i weled y buasaillwydd y lleill yn ammhosibì oni buasai am eu llafur distaw hwy. Nid all fod gwir werth mewn unrhyw symudiad, na thebygolrwydd 0 Iwydd iddo, os nad yw yn cael ei ysbrydoli gan feddylwyr. Metha ambell ysgogiad, nid 0 ddiffyg zel, ond 0 ddiffyg barn, neu absenoldeb adnabyddiaeth o egwyddorion : oblegid ni ddaethai i fodolaeth pe rhoddasid ystyriaeth oleuedig i ammodau llwyddiant cyn ei gychwyniad. Y meddylwyr tawel ydynt y gweithwyr mwyaf effeithiol; eu hysbrydoedd hwy sydd mewn cymundeb byw âg egwyddorion, ac yn eu gweled megis wyneb yn wyneb. Rhagoriaeth arbenig Dr. Èdwards yn ei ber- thynas â rhai symudiadau oedd ei eglurhad 0 egwyddorion. Er enghraifft, ni fyddai yn arfer areithio ar Ddadgysylltiad: etto yr erthygl a ysgrifenodd ar yr Eglwys a'r Wladwriaeth ydyw y peth goreu yn yr iaith, ac nid oes mewn un iaith ddim rhagorach ar y pwnc. Yr erthygl hon, a llyfr Vinet ar Religious Convictio7i, ydy w y ddau draethawd goreu a ddarllenasom arno erioed.—gyda'r gwahaniaeth fod mwy 0 eangrwydd yn nhraethawd y Cymro, trwy ei fod yn rhoddi mwy 0 bwys ar gyffes gwlad 0 grefydd, tra y mae mwy 0 indẁidualism yn nhraethawd y Ffrancwr.