Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN: Rhif 3.] GORPHENAF, 1888. [Cyf. VI. AWDL-BRYDDEST—«AC YR OEDD HI YN NOS," (Ioan xiii. 30.) (Testyn Cadair Eìsteddfod Llandudno, 1887.) AT Y BEIRNIAID. Hyderaf, fel ymgeisydd, na thybir fod genyf un amcan i ddylanwadu yn annheg ar droad y fantol feirniadol wrth gynyg gair neu ddau o eglurhad ar fy safle i o edrych ar y testyn, a'r ffordd a dybiwn yn effeithiolaf i ddadblygu adnoddau ei farddoniaeth gyfoethog. Pa fodd bynag, yr wyf yn anturio ysgrifenu ychydig o nodiadau, heb un dymuniad am i'r cynyrch canlynol gael dim mwy na'r hyn a ddys- gwylia pab ymgeisydd teg, sef cyfîawnder, a dim ffafr. Gan fod y testyn, er yn un ardderchog, eto, yn lled benagored, ac yn caniatäu amrywiaeth barn gyda golwg ar drafferth. Hwy, wrth reswm, fydd i benderfynu a yw y nod yn un priodol i'r testyn, ac a ydyw y ffordd a gymerwyd i'w sicrhau yr oreu. Fe gytunir, ond odid, nad yw y testyn ynddo ei hun ond mynegiad syml o ffaith; ond y mae y ffaith, wrth ei chysylltu â'i hamgylchiadau, mor awgrymiadol, fel y tybiwn ei bod yn gyfoethog dros ben o farddoniaeth; a chredwn y goddefai ddwyn i mewn i'r cyfansoddiad holl amgylchiadau arbenicaf y "Nos" a dragwyddolwyd, megys, drwyddynt. Eto, teimlwn mai yn y cydgyfarfyddiad awgrymiadol o amgylchiadau ag y mae y nos naturiol yn ddarlun ffugyrol lled effeithiol i'w gosod allan, y mae barddoniaeth y testyn, yn benaf, yn gynwysedig. Rhwng yr oruwch- ystafell, Gethsemane, a llys yr archoffeiriad, ar y nos grybwylledig, yr ydym yn cael cydgasgliad, megys, o bob nos sydd yn tywyllu hanes dyn â phrudd-der ac ofnadwyaeth—Nos yr amgylchiadau—Nos tywyllwch syniadol am eu hystyr a'u harwyddocâd —Nos tristwch a phryder yn y rhagddysgwyliad am berygl, adfyd^ a dyoddefaint—Nos drygioni moesol yn ei dduwch dyfnaf; a Nos dau fath o edifeir- wch— edifeirwch Pedr am wadu ei Arglwydd, yn awr y brofedigaeth, o herwydd gwendid ffydd; ac edifeirwch Judas am werthu ei Arglwydd, roewn gwaed oer, i foddloni trachwant calon wrthgiliedig oddiwrtho, yn arwain i nos anobaith, lle y dibena y gân gydag ymson Judas yn rhoddi cipolwg ar ei drueni, a rhag-awgrym o'r ffordd a gymerodd i geisio myned allan o hono. Rhag i'r cyfansoddiad ymddangos fel math o wastadedd unolygfäol i'r dar- llenydd, drwy fod y bardd, yn nghymeriad yr hanesydd, yn cadw ei hun rhyngddo â'r golygfeydd a ddarlunir, amcanwyd i'r cymeriadau arbenicaf yn mhrudd- chwareuad (tragedy) y nos, gael siarad trostynt eu hunain, megys, ar lwyfan y cyfansoddiad, can belled ag y tybid y caniatâi terfynau mor gyfyngedig, yn rhwydd, i wneud. Ac, am fod ffaith y testyn yn cael ei mynegu mewn cysylltiad â mynediad Judas allan o'r oruwchystafell ar ei neges nosawl, ac y tybid ei fod ef yn corffori, ^egys, ynddo ei hun, ddüwch dyfnaf tywyllwch amgylchiadol a moesol y nos ryfedd hono, amcanwyd rhoddi iddo y lle amlycaf ar chwareufwrdd ei hanes. Heb amcanu dilyn yn fanwl, mewn un modd, gynlluniau ysgrifenwyr chwareugerddi, gwelir fod y gwahanol gymeriadau, yn fynych, yn dyfod i sylw y darllenydd, heb ddim llin- ellau o gyflwyniad—dim ond eu henwau priodol neu swyddol. Gwnaed hyny, yn benaf, er arbed gwastraffu llinellau a dybid ellid ddefnyddio i well dibon, er llenwi y nifer pennodedig â mwy o adnoddau barddoniaeth y testyn. Hefyd, tybiaf y gwelir fod acen prudd-der, a lliw tywyllwch y nos, megys, yn anadlu yn ngeiriau pob cymeriad, ac yn paentio pob darlun a geisir eu portreadu.