Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN: Cplrfcgraton CenetHaet&oI. Rhif. 2.] EBRILL, 1894. [Cyf. XII. ROGEE WILLIAMS, YNYS EHODE: AI CYMEO OEDD? Yr ym ni'r Cymry yn rhyw gymysg ryfedd. Nid oes un genedl dan haul mor ymffrostgar am ei gwyr enwog, ac yn sicr nid oes un genedl yn gwybod llai am ei henwogion. Yr ym yn siarad yn rhwydd ac yn llithrig am Taliesin & Myrddin, am Llewelyn ab Gruffydd ac Owen Glyndwr, am Dafydd ab Gwilym a Goronwy Owen: a faint a wyddom ni am danynt ond eu henwau ? Ond nid ym yn foddlon ar ymffrostio yn ein henwogion cenedlaethol: y mae yn rhaid i ni geisio chwilio am ddyferyn o waed Oymreig yn enwogion cenedloedd ereill. Yr ym wedi syfrdanu y byd a'n haeriadau mai Cymro oedd Cromwell. Gwir ei fod yn hanu o linach Gymreig; ond yr oedd cenedlaethau lawer o Saeson wedi boddi ei waed Cymreig. Yn yr un modd yr ym yn hoff o honi mai Cymro oedd Milton; a'r un ysbryd plentynaidd a wnaeth ein cenedl yn watwargerdd y byd gwareiddiedig drwy ddweyd mai Cymro—Madog ab Owen Gwynedd—oedd y cyntaf i ddarganfod America. Y mae yn warth ac yn gywilydd i genedl y Cymry, y genedl hynaf o genedloedd Ewrop, i gyfaddef nad oes gyda hi ddigon o enwogion ei hun fel y mae yn rhaid iddi dreio dwyn y clod oddiar wledydd ereill. " Ymhob gwlad y megir glew; " ac y mae yn dda genyf foddwl fod gwroniaid wedi codi yng Nghymru fechan dlawd f uasent yn goron ac yn anrhydedd i'r wlad fwyaf a'r genedl odidocaf dan haul. Ac y mae yn dda genyf hefyd fod genym gymaint o wroniaid fel nad oes eisieu arnom i ddychmygu mai Madog däarganfyddodd America, neu mai Cymro oedd Eoger Williams, Ynys Ehode. Chwi welwch, er fy mod yn gofyn y cwestiwn ar y cyntaf, nad oes genyf fl yr un amheuaeth am yr ateb. Peidied neb meddwl mai rhagfarn sydd wedi gwyro fy marn. Na! ym mis Mai, 1888-chwe' blynedd yn ol—gofynwyd 1 mi ddarllen papur o flaen Cymdeithas Daf ydd ab Gwilym yn Ehydychen: a chan na wyddwn ddim ynghylch Eoger Williams, cymei*ais ef fel testyn. Mae'r ysgrif genyf hyd heddyw yn dyst. Dechreues drwy ddweyd mai Cymro o'r un sir a mi fy hun oedd Èoger Williams : ond wrth fyn'd yn mlaen gwelir fod fy ffydd yn dechre siglo, nes o'r diwedd mae'r fîug-chwedl felus wedi ei thori'n gandryll. Felly nid rhagfarn sydd a wnelo à'm penderfyniad: os goddefìr i mi ddweyd hyny, nid anwybodaeth o'r testyn, chwaith, a barodd i mi ddod i'r casgliad hwn. Gwir i mi gychwyn heb wybod dim am y testyn; ond wrth ganfod yr anhawsder i brofi mai Cyniro oedd Eoger Williams, ym- roddes i'r gwaith o chwilio allan bobpeth a allwn gael yn ei gylch. Ni hoffwn ddweyd fy mod wedi darllen y cyfan o weithiau Eoger Williams—buasai hyny'n waith blwyddyn gyfan; canys bu fyw ddyddiau lawor, ac efe.a ysgrif- enodd lawer yn ei ddydd : ond darllenes ei fywgraphiadau gan Elton ac ereill; darllenes hefyd erthygl a ysgrifenwyd gan "Tal-a-hen" i'r BedDragonaxj pwnc, a gweles mai llen-ladrad cywüyddus oedd o waith y Proffeewr Elton. Dywedir mai Kilsby oedd "Tal-a-hen; " ond y mae yn chwith iawn genyf gredu ei fod ef wedi bod yn euog o'r fath drosedd anfaddeuol. Beth bynag am hyny, bues am wythnos neu ragor yn Llyfrgell Bodle yn Ehydychen yD darllen yr hyn oll a allwn ynghylch y gwron. Gweles ei lyfr ar Iaith yr Indiaid Americanaidd; agores ei waith ar y " Bloody Tenet of Persecution;" a darllenes deitlau lliaws mawr, na ddichon neb eu rhifo, o bamphledau oeddynt yn ddydd- orol iawn yn yr amser eu hysgrifenwyd, ond sydd erbyn heddyw mor ddiflas a phapur diwrnod oed. O'r braidd na allwn adgoffa i chwi'r hanes fel y torodd anghydfod allan rhwng y Parchedig Mr. Cotton a Mistyr Eoger Williams, yr hwn ni fynai gael ei alw'n "barcheaig:" ond gan dosturio, tosturiaf wrthych o bell, a mi a'ch arbedaf y tro hwn.