Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN Riiif. ].] IONAWR, 1895. [Cff. XIII. HEN GESTYLL CYMRTJ. Yn yr ysgrif hon bwriadaf gyfyngu fy hun cyhyd y gallaf at roi braslun cyffredinol o hanes y Cestyll Cymreig, yn liytrach nag adrodd hanesion ynghylch rhyw gestyll neillduol. Fe geir y cyfryw hanesion yn y mwyafrif o lyfrau ar Hanes Cy'mru ac yn y llawlyfrau a werthir er cyfarwyddyd i'r ymwelydd â gwahanol gestyll ein gwlad. Etto, er y cawn gryn lawer o ddefnyddiau, mwy neu lai gwir, yn y mwyafrif o'r llyfrau hyn a gweithiau neillduol ar Hanes Cymru,— adroddiadau, er engraifft, o'r brwydrau a ymladd- wyd ger y cestyll, a'r gwarchaeon fu arnynt,—mae'n rhyfedd mor lleied geir o'u hanes cyffredinol, megis eu hadeiladiad, gan bwy eu codwyd, ac i ba ddibenion, a'r cyffelyb. Buasai codi'r fath adeiladau enfawr yn anturiaeth nodedig heddyw ; ond pa faint mwy oedd synedigaeth trigolion saith ganrif neu wyth yn ol, pan y trigai ein cydgenedl mewn anneddau tra diaddurn : etto erys yn ffaith ei bod yn dra anhawdd cael cyfeiriadau helaeth at y cysylltiad agos a ffynai yn ddiddadl rhwng y Cestyll Cymreig a chyfnod pwysig, ond byr ei arhosiad, yn hanes Cymru, pan y sefydlwyd ymhlith ein hynafìaid y cestyll agyr ydym yn gynefin â'u ffurfiau hanner-adfeiliedig. Etto, mewn aniryw lawysgrifail mae gennym gyfeiriadau pwysig at y Cestyll Cymreig: a chyn y diwedd cyfeiriaf at argraffiadau o'r Llawysgrifau Cymreig yn y Rolls Seríes. Mae yn y rhai hyn amryw gofnodion gwerthfawr: a chredaf yn gryf nas gellir cael hanes dilys a chywir am y Cestyll Cymreig heb gasgliad gofalus o'r cofnodion hyn. Cyn dechreu ar hanes manwl y Cestyll Cymreig buddiol fyddai cymeryd brasolwg yn frysiog ar hanes yr ynys yn y dyddiau cyn adeiladu'r cestyll. Gallwn felly benderfynu pa fath gastell ymddanghosodd gyntaf, ac yiu niha ffurf. Mae yn dra thebyg, os nad yn wirionedd profedig, fod cynnrychiolydd cyntaf y Cestyll Cymreig ar ffurf hollol wahanol i'r rhai yr ydym ni yn gynofin â hwy heddyw. Mor bell ag y gwyddis oddiwrth gasgliadau ymchwiliadau liynafiaethol, nid oes cyfeiriadau at ddim tebyg i gestyllyn y cyfnod cyn-Eufeinaidd,—er fod hen drigolion yr ynysoedd hyn wedi amcanu ffurfio sefydliadau amddiffynol yn eu dull o drefnu eu preswylfeydd crynion. Er hynny, nid oes unrhyw gysylltiad rhwng y rhai hyn â'r cestyll diweddarach, mewn ffurf, nac adeilad- aeth, na safle,—ag eithrio, hwyrach, ychydig iawn o engreifftiau. Mae gennym, fodd bynnag, yn y cyfnod Ehufeinig, o'r hyn lleiaf, amryw leoedd, os nad oes gennym adeiladau, ydynt mewn cysylltiad agos â rhai o'r cestyll adfeiliedig Cymreig presennol. Er engraifft, mae'n eithaf adna- byddus fod yn amryw fannau, lle y cavrn adfeilion cestyll, gynt ryw ffurf o orsaf Ehufeinig. Felly yr oedd yn ddiammeu yn Fflint, Caernarfon (Segonthtm), ac, feallai, Conwy. Engraifft arall yw Holt ar lanau'r Ddyfrdwy, cangen berthynol i'r llengoedd Ehufeinig a wersyllent yng Nghaerlleon. Mae gennym hefyd gyfeiriadaii diamheuol yn hanes Cyiuru at gestyllmewn mannau lle na chawn yn awr ond "tomenydd" a charneddau. Cydnabyddir fod y carneddau hyn o darddiad Ehufeinig; ac y mae yn dra thebyg i'r Cymry fanteisio arnynt a chodi arnynt ryw fath o gastell. Mae'r cestyll wedi eu dinystrio'n hollol; ond erys y pridd-gloddiau Rhufeinig. Darllenwn, er engraifft, am gasteíl yn y Bala a godwyd gan Llowelyn ab Iorwerth ; ond nid erys dim o hono, tra y mao olion y " domen," neu'r garnedd Eufeinig lle y safai, yn eithaf anüwg,