Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN: Cpleögraton CeneìJlaetboL Rhif. 1.] IONAWR, 1901. [Cyf. XIX. Y GANBIF DDIWEDDAF A'I HYNODION. Hib, y pery y son am ddigwyddiadau mawrion a gweiliantau godidog y gan- rif sydd newydd fyned heibio. Os dygodd gyda hi waeau trymion ar ambell wlad, cawsom ni o fewn y dalaeth hon fwynhau heddwch a llwyddiant mawr. Parhaodd Cymru i ymdeithio rhagddi ar lwybr diwylliant yn ddiatal, gan gadw i fyny yn dda â'r rhanau mwyaf ffafriol o'r Deyrnas Gyfunol. Medd- yiier am gynydd ei masnach, ei golud, ei thrigolion, a'i llenyddiaeth, yn ystod y cyfnod heulog dan sylw. Gwyddom hefyd na bu pali ar ei chynydd mewn dysg a rhinweddau moesol yn y cyfamser. Gan i law y Goruchaf fod arnom fel hyn er daioni, boed i ni ystyried ein rhwymedigaethau, a bod yn ddiolchgar iddo. Yn yr ysgrif bresenol bwriedir cymeryd golwg ar rai o'r gwelliantau cymdeithasoì a chyffredinol pwysicaf a gymerasant le; a diau na warafunir i'r awdwr dynu ychydig allan o lyfr ei brofiad ei hun, gan fod ei adgofion am bersonau a phethau yn digwydd cyrhaedd gryn dipyn yn mhellach yn ol nag amryw o'r rhai a ysgrifenant i'r Wasg yn nechreu y ganrif bresenol. Heb ragymadroddi yn hwy, dechreuir gyda YB ETHOLIADAU SENEDDOL. Priodol yw dechreu gyda'r rhai hyn, yn gymaint a'n bod newydd ddod allan o ganol berw gwyllt etholiad cyrfredinol unwaith yn rhagor. Dros y rhan fwyaf o'r ganrif, digwyddodd cynrychiolaeth y sir hon fod yn ol ewyllys y mawrion a'r tirfeddianwyr penaf. Ond daeth tro ar fyd o'r diwedd ; a da hyny. Yn y bwrdeisdrefi ceid llawer mwy o helyntion, a siarad yn gyffred- inol. Mynych y bu i wyr mawr ddod allan yn erbyn eu gilydd, gan beri cyff'ro a dwyn arnynt eu hunain gostau anghyffredin. Y mae gan yr ysgrif- enydd " gof bachgenyn" am yr ymrysonfa fawr cydrhwng W. Ormsby Gore, Ysw., a'r Llyngesydd Syr Charles Paget, yn y flwyddyn 1832. Ar un o (idyddiau poethaf yr etholiad cymerwyd ef yn llaw un cymwys, i gael golwg ar y dref a'i berw, pryd y gwelodd ac y clywodd yno bethau anhygoel. Dyrna ar y ford o'm blaen, "Hanes Tre a Sir Gaernarfon, fel yr oeddynt, ac fel y maent yn 1860;" gan yr hen ysgolfeistr clodwiw John Wynne o Gaernarfon ; ac fel y canlyn y ceir ganddo ef yn ei lyfryn tra dyddorol,— " Yr ymdrech ddigyffelyb, yr hon a gymerodd le ddeng mlynedd ar hugain yn ol, rhwng Admiral Syr Charles Paget a W. O. Gore, Ysw., am fwrdeisdrefydd Sir Gaernarfon, a fu yn dra chostus, dim Uai na pheolwar ugain mil o bunau i'r ddau foneddwr: fe allai hyny ymddangos i lawer, er yn wirionedd, yn beth anghred- adwy. Yr oedd Syr John Jervis, a'r cyffelyb rai, yn Nghaernarfon, yn yr ym- drech hon. Yr oedd yr holl inns a'r tafarndai trwy y dref yn agorcd, i roddi bwj'd a diod yn ddiarbed; a'r siopau gyda hyny at wasanaeth y voters, i roddi rhoddion i'w cyfeillion; ac hefyd llogi cerbydau, a cheir, a badau, i gyrchu pleidleiswyr o bob man; a chynhelid hwy oll o bob bwrdeisdref, dros ystod yr etholiad, yn nhre Gaernarfon; a hyny am tuag wythnos o amser. Yr oedd yr holl fwrdeisiaid o bob bwrdeisdref yn y sir, yn cydgyfarfod yn Nghaernarfon, ar yr achlysur hwnw, heblaw costau mawrion gyda chyfreithwyr, ac ereill, a phob rhyw dreuliadau, y rhai nis gellir eu henwi. Mae rhai personau yn byw yn dcla y dydd heddyw ar gyfrif yr etholiad hwnw, os nad yn annibynol." Wel, er pan yr ysgrifenai Wynne fel yna onid oes cyfnewidiad mawr er gwell wedi cymery'd lle ? Y mae yr amser i ddwyn yn mlaen yr etholiadau wedi ei gwtogi, y costau wedi eu lleihau, y llwgrwobrwyon, o ran y gyfraith, wedi eu diddymu, a'r tugel yn rhoi dyogelwch i bob un bleidleisio fel y gwelo yn °reu, heb raid iddo ofni cael ei alw i gyfrif am ei waith. Yn yr etholiadau Synt5 yr oedd mwy o golli amser, pleidleisio yn erbyn cydwybod, yfed, meddwi, ac ymrysonfeydd 'anwar, nag yn bresenol. Wedi y cwbl, onid oes lle mawr i ddiwygio eto'? Paham na welai pobl y priodoldeb, bellach, o ganiatau i B "