Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN: Cplrbgrnton Cnẅlar'tbc!. Rhif. 3.] GORPHENAF, 1901. [Cyf. XIX. LLEW LLWYFO. Am yr haner can' mlynedd diweddaf y mae yr enw " Llew Llwyfo " wedi bod yn enw cenedlaethol Ynghymru : nid oes nemawr enw yn mysg ein cenedl ni wedi bod yn fwy cyffredinol adnabyddus ar hyd yr holl flynyddau. Er ys deugain, a phum' mlynedd a deugain yn ol, nid oedd gwyneb mwy adna- byddus, a llais mwy adnabyddus, na gwyneb a llais "Y Llew;" ond er ys dros ugain mlynedd bellach nid oedd gwyneb a llais " Y Llew" mor adna- byddus ag y buont. Cafodd ergyd o'r parlys, tua'r flwyddyn 1878; ae o'r adeg hono allan nid oedd " Y Llew " ar y llwyfan, ac yn y cynulliadau cenedl- aethol, a'r eisteddfodau lleol, a'r cyngherddau ar hyd a lled y wlad, mor aml ag y gwelwyd ef yn ystod yr ugain mlynedd cyn hyny. Y neb ni welodd "Y Llew" cyn iddo gael ei barlysu, nid oes ganddo ond syniad gwan arn Llew Llwyfo yn ei ddydd ac yn ei rwysg. Mewn enw, yn fwy nag fel person, yr adnabyddid ef gan yr oes bresenol o ddynion ieuaine. Nid oedd yn gallu ysgwyd ei fwng fel y bu, na rhuo fel y gwnai yn ei nerth, yn ystod y blynyddau diweddaf hyn ; nid yr un oedd ond yn unig mewn enw; ac y mae ei enw yn fyw wedi icldo farw, a bydd fyw ei enw a'i waith cyhyd ag y bydd yr iaith Gymraeg fyw. Nid allan o le, er mwyn darllenwyr ieuainc Y Genhinen, fyddai GAIR O HANES EI FTWYD BOREUOL. Ganwyd ef ar y dydd olaf o fis Mawrth, 1831, ym mhentref Pensarn, yn mhlwyf Llanwenllwyfo, yn Ynys Mon. Enwau ei rieni oedd Richard a Mary Lewis, a'r enw roisant hwy ar eu bachgen oedd Lewis William Lewis. Mwnwr oedd ei dad, yn y gwaith copr yn Mynydd Parys, Ynys Mon; a merch i ysgolfeistr oedd ei í'am. Bu y bachgen Lewis William Lewis yn gweithio am beth amser, pan yn ieuanc iawn, gyda'i dad yn y gwaith copr. Wedi hyny prentisiwyd ef mewn siop brethynwr yn Mangor; ond ni bu yn hir gyda'r copr yn y mynydd na chyda'r brethyn yn y siop ; yr oedd yn well ganddo am gerddoriaeth nag am gopr, ac am farddoniaeth nag am frethyn. Aeth ei fryd yn foreu ar lyfrau a darllen, a dysgu canu, a dysgu barddoni; a bu, fel llawer o'r beirdd, yn ceisio cadw ysgol am dymor. Nid oes genytn fawr o'i hanes fel ysgolfeistr; ond yr ydym yn teimlo yn sicr ei fod yn athraw clir ei ben a charedig ei galon, a bod ganddo dafod a pharabl ardderchog i argraffu ei wersi ar feddyiiau ei ddysgyblion, pwy bynag oeddynt: os oedd rhywbeth yn eisiau arno fel athraw cíichon mai y gras o amynedd oedd hwnw : nid Ilawer o ymddiried ellir roddi yn amynedd Llew. Yn y flwyddyn 1849 yr enillodd ei wobr eisteddfodol gyntaf—yn Eis- teddfod Llanerchymedd, pan yn brentis brethynwr yn Mangor. Cywydd i Arglwydd Dinorben oedd y testyn ; naw yn cystadlu, a Dewi o Ddyfed yn beirniadu. Pwnc pwysig, cofier ; a champ uchel oedd enill cywydd mewn eisteddfod yn Sir Fon yr adeg hono : a phan welocld y pwyllgor brentis brethynwr ieuanc a! di nod a di enw yn dod i'r llwyfan i dderbyn gwobr Cywydd i Arglwydd Dinorben, " rhai a amheuasant." Bu'r "prentis" o dan arholiad caled a manwl o flaen y pwyllgor parth rheolau Cynghanedd a llinellau Cywydd; ond atebodd bòb cwestiwn y tu hwnt i amheuaeth. Fflamiodd natur dda yr eisteddfodwr pybyr Dewi o Ddyfed, a chymerodd at gadw chwareu teg yn gyhoeddus i'r prentis, gan mai efe oedd y beirniad a'r arweinydd. "Fy nghydwladwyr! y mae hyn yn greulondeb," meddai. "Beth yw eich enw, fy machgen i?" gofynai'r Doctor. "Lewis William Lewis,"' medclwn inau. " 0 ba le yr ydych yn dyfod ?" " O'r plwyf nesaf— Llanwenllwyfo." " O'r goreu; o îiyn allan'tydi a elwir yn Llew o Lwyfo, wedi ei dalfyru yn Llew Llwyfo-" Fel yna y mae "Y Llew" ei hun yn ysgrifenu yr hanes, yn Y Genhinen am 1891, am enill y wobr gýntaf a äerbyn yr enw "Liew Llwyfo,"