Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN: Cplr&graton Ceneìilaetöol. Rhif2.]^ EBRILL, 1892. [Cyf. fT^ DEDDFATTE TIE YN NGHYMEU. Yb wyf wedi ymgymeryd â gorchwyl ag sydd dipyn yn ddyryslyd a helbulus: oblegyd fe gafodd deddfau tirol henafol Cymru eu difreinio yn orthrechol gan y gyfundrefn Saesnig o berchenogaeth a deiliadaeth dirol, ac ni olygwyd hwy yn ngoleuni gwybodaeth gywir o hanesiaeth foreu y Oymry. Ac nid ydyw Cymru eto ychwaith wsdi dwyn i ffurf ei harcheb gyntaf am i'w hanawsderau tirol gael eu trin gan ddeddfwriaeth arbenig. Nid wyf yn honi, modd bynag, unrhyw sicrwydd ac awdurdod wrth siarad am orphenol na dyfodol Oymru, ond boddlonaf fy hun drwy bwyntio allan fod amgylchiadau ac arferion dygwyddol i dirddeiliaeth a bywyd cymdeithasol Oymru a hyfforddiant sylfon i astuóÜaeth arbenig a gweithrediad seneddol neillduol. Y mae yr amgylchiadau a'r arferion yma i'w priodoli mewn rhan i agweddau naturiol Oymru, ae mewn rhan i ddylanwadau annystrywiol llwyth a chenedligrwydd. Mor wydn ac mor alluog y gellir gweled dylanwadau bywyd cenedlaethol yn y gwrth- safiad ystyfnig, byw, a gynygir gan bobl Geltaidd fel y Oymry a'r Gwyddelod i orlifìad ymddangosiadol meddylddrychau Saesnig, cyfraith Saesnig, a llywodr- aeth Saesnig. Bu amser pan yr oedd gan Gymru nid yn unig ei hiaith ei hun a'i Uenydd- iaeth ei hun, ond hefyd ei chyfundrefn fanwl o dirddeüiaeth, ei rheithlyfr, a'i pheirianwaith ynadol ei hun. Oyn y jgoresgyniad gan Edward a rheolaeth annhosturiol arglwyddi'r Gororau, yr oedd Cymru yn rhanedig i ddosbarthiadau tirol ac ynadol, trefniadau mewnol pa rai a ymddangosant yn astrus a gwyllt hyd oni sylweddolwn ni fod dal tir, gweinyddu cyüawnder, a pherthynas gwyr y llwyth i'w prif, wedi eu cymhlethu a'u cyd-ddybynu. Gwlad llwythau a gwladwyr, lle yr oedd bod yn dywysog y llwyth, a rhyddid ac uchafiaeth yn mysg y gwladwyr, yn dibynu ar hawl, o f od yn hollol Gymreig mewn gwaed ac iaith, 1 bob peth a berthynai i draddodiad a bywyd cymdeithasol. Ond darfu i degwch y wlad a thegwch merched Oymru brysuro dydd ei darostyngiad i Loegr, ac i ddylanwadau Saesnig, ac i helpu gyru ar encil ddeddfau a sefydliadau Cymreig. Trwy orthrech, trwy anrhaith, trwy hoced dpddfau Saesnig, ac nid y lleiaf briodas etif eddesau Oymreig â phendefigion Saesnig ac Ysgotaidd, aetb y rhan fwyaf o diroedd Cymru allan o reolaêth y llafurwyr gwledig i ddwylaw Saeson ac Ysgotiaid, y rhai ydynt yn estroniaid cenedlaethol ac yn ddieithriaàd cymdeithasol yn y wlad. Y mae deddf y cynfab a'r arfer o etifeddu, y naill fel y llall, yn estronol i ddeddf ac arfer Gymreig, wedi creu tirfeddianwyr mawrion yn fath o blaid freiniol, derbyniad i ba un ydyw nod uchaf dyheuad rhaib Saesnig. Y mae athrawiaeth perchenogaeth bersonol o'r tir a gaed dan y Tudoriaid, yn raddol wedi rheoli perthynasau tirol yn Nghymru ; tra y mae gwireb deddf Saesnig, fod yn rhaid i bobpeth a gysylltir a'r tir berthyn i'r tir, yn cael ei chjTiihwyso yn gyson a didrugaredd at ddyrchafiad perchenog v tir a llymhad llafurwr y tir. Y mae chwyldroad diwydrwydd y ganrif ddiweddaf, a chodiad prisiau amaethyddol gan y rhyfel- oedd Napoleonaidd, wedi agor y ffordd i gydymgais mewn lleth-ardrethion, amgauad digywilydd y tir cyffredin, diflaniad p6rchenogion rhydd-ddaliadol, a mwyhad y rhwyg rhwng y tir a'i lafurwr. Y mae dulliau trethiad, deddfiad, a Uywodraetîüad Saesnig, bob cam, wedi helpu i ysgaru y Cymry oddiwrth dir Oymru. Yr efîaith ydyw fod 2,245,520 o erwau o dir Oymru yn cael ei berchenogi gan 672 o ddynion, mwyafi'if mawi- pa rai na feddant un cydym- deimlad cymdeithasol, gwleidyddol, na chrefyddoi â Uuaws pobl Cymru, tra y mae nùliwn a.chwarter arall o erwau yn cael eu meddu gan ychydig tros 4,000 o bersonau. Ychwanegwch at hyn y ffaith fod tiroedd eang y Goron yn