Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN: Cglrftgraton Cmeìilaet&ol. ~Rhif. 4.] HYDREF, ^893. [Cyf. XI. Y PAECHEDIG DAVID SAUNDERS, D.D. Y mae eisoes ddwy erthygl ar Dr. Saunders wedi ymddangos yn Y Geninen: y naill yn rhoddi amryw fanylion dyddorol am ei ddyddiau boreuol, a'r llall ddesgrifiad rhagorol o hono fel pregethwr; ac nid gorchwyl hawdd ydyw ysgrifenu trydedd erthygl heb gyffwrdd i ryw fesur â phethau a gawsant sylw yn yr erthyglau uchod. Ond y mae yn hyfrydwch gwirioneddol i mi gael y fraint o wahodd nifer o'm cydwladwyr i dreulio ychydig funydau unwaith eto yn nghymdeithas un o'r dynion puraf ac un o'r pregethwyr rhagoraf a roddwyd erioed i Gymru. Yn Nghymdeithasfa Machynlleth, Mehefin, 1861, y gwelais i ef y tro cyntaf erioed; ac yr oedd yn pregethu yn olaf yno ar y maes yn oedfa y pryd- nawn ac oedfa yr hwyr. Esgusodir fi, fe allai, am gyfeirio at y "Sassiwn" hono yn helaethach nag y mae yn angenrheidiol i amcan yr erthygl hon ; canys yr oedd i mi yn un fythgotìadwy. Hogyn ieuangc oeddwn ar y pryd, yn gweithio yn Chwarel Aberllefenni. Mawr oedd fy awydd am fyned i'r "Sassiwn" i glywed y pregethau "y nos yn mlaen;" ond gwrthodwyd yn bendant i mi ganiatad i adael fy ngwaith. Collais felly bedair o bregethau y bu sôn mawr am danynt am flynyddoedd. " Y noe yn mlaen," yn nghapel y Graig (A.), yr boreu dranoeth, yn nghapel Maengwyn, yr oedd y " ddau Eben " yn pregethu, sef y Parchedigion Ebenezer Wilíiams, Defynog; ac Ebenezer Davies, Llan- erchymedd. Nid oedd diwygiad 1859-60 wedi cwbl oeri ar y pryd; ac yn Maengwyn aeth yn orfoledd mawr. Pan gyrhaeddais i " gae y Sassiwn," tua hanner awr wedi naw, yr oedd yr hen weinidog hybarch, y Parchedig Hugh Morgans (A.), Samah, yn gwéddio yn dra gafaelgar. Wedi iddo ef orphen gweddio mi glywn ìyw lais dîeithrol o'r stage. Jane Hughes, Pontrobert, oedd yno yn rhoi pennill allan i'w ganu:— " 'Does arna'i ddim c'wilydd cyfff su Y Gwr a fu'n chwysu'n yr ardd, &c." Wedi i'r gynulleidfa ganu y pennill gwedd'iodd yn ddoniol. Am ddeg pregeth- odd y Parchedigion William Morris, Ehuddlan; a Henry Eees, Liverpool. Fel y dywedais eisoes, y pregethwr olaf am ddau o'r gloch oedd y Parchedig Darid Saunders, Aberdâr. Ei destun oedd Heb. xii. 24, " A gwaed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na'r eiddo Abel." Syrthiais mewn cariad âg ef wrth ei olwg; ac yr oedd y fath ras wedi ei dywallt ar oi wefusau fel yr oedd pob gair a ddisgynai oddi wrtho yn gwneyd ei fîordd ar ei union i'm calon. " Yr wyf mewn dwfn brofedigaeth," meddai, " wrth geisio eich hanerch y prydnawn heddyw. Yn un peth, y mae fy mrawd wedi mynnu pregethu o fy mlaen, —yn hollol wahanol i'r modd y byddwn yn arfer gartref. A pheth arall, y mae swn y bregeth rvfedd a glywais neithiwr yn aros byth yn fy nghlustiau." Pregeth Mr. David Jones ar y " Cyfryngwr " oedd hono. Ond i mi yr oedd eistedd dan y "bregeth ryfedd" a draddodid ganddo ef y pethtebycaf v gallwn feddwl am dano i gael fy nghipio i'r drydedd nef. Pan yr oedd ar yr heol yn inyned o'r oedfa hono tma'i lety, yr oedd yn dda genyf gael cerdded mor agos atto ag y gallwn am ychydig latheni fel y "disgynai ei gyfgod" arnaf. A phregeth nodedig a gafwyd ganddo drachefn yn yr hwyr. O ì flaen pre- gethai y Parchedig Joseph Jones, y Borth, oddiar Phil. 11. 16, " Yn cynnal gair 7 bywyd.*' Bu llawer o sôn am y bregeth hono; a daliodd un brawd a ad- ^aenwn ya dda i son am dani tra y bu byw. Ond y bregeth olaf oedd i mi yr