Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEN I N EN: Cglcíjgraton; CeneMattM. Rhif. i.] IONAW*, 1885. [Cyf. III. SEFYLLFA ADDYSG Y WERINOS HANER CAN' MLYNEDD YN OL, AC YN BRESENOL. A fedr rhyw un o ddarllenwyr lluosog Y Gentisten' gynysgaethu ei thudalenau âgattebion i'r gofyniadau canlynol?—(1) Pa ddylanwad gynyrchodd Barddas ar Gristionogaeth pan y daeth gyntaf i Ynys Prydain ; ac o'r tu arall, pa ddy- lanwad ^ynyrchodd Cristionogaeth ar Farddas ? (2) Pa ddylanwad gafodd y Ehufeiniaid ar y Prydeiniaid yn ystod eu harosiad yn yr Ynys ? Pa uifer o'u holion sydd i'w canfod yn Nghymru ? Mae rhanau o'r ffyrdd milwraidd a wnaethant i'w gweled yn bresenol. Can gynted ag y llwyddai y Rhufeiniaid trwy eu harfau i ddarostwng unrhyw wlad, brysient i ddwyn i mewn eu sefydl- iadau; ac fel y deddfwneuthurwyr a'r deddfweinyddwyr penaf a welodd y byd paganaidd erioed, gwnaent eu goreu. yn ol y goleuni a feddent, i wareiddio pob gwlad a ddarostyngent i'w ljywodraeth. Byddai hanes addysgiadol y Cymry, o ddyfodiad Cristionogaeth i'r Ynys hyd yn bresenol, yn annhraethol ddyddorol; ond nid ydyw y cyfryw gaäaeliad goludog i'w ddysgwyl. Mae dydd genedigaeth y syniad y dylai y werinos dderbyn addysg fydol yn gydmariaethol ddiweddar. Sefydlwyd colegau ac ysgolion yn foreu iawn ar gyfer parotoi otìeiriaid i ddysgu y bobl. Cyfyngid pob math o wybodaeth i'r mynachdai, a'u preswylwyr hwy oedd yr unig ysgolheigion yn y wlad yn ystod y tymhor y blagurent. ac yr oedd hwnw yn gynwysedig o amryw ganrifoedd. Hotfem yn fawr wybod pa un a oedd yn meddiant offeiriaid yr hen Eglwys Brydeinig, cyn ei darostyngiad i lywodraeth y Pab, tua'r flwyddyn 762, ys- grifen-gopi o'r Ysgrythyrau, a phwy oedd awdwr y rhigwm canlynol, a pha beth ydyw ei ystyr ?— " Nid yw Duw mor greulon, ag y dywed hen ddynion ; Uud celwyod yr otiairiaid yu darlleu hen grwyn defaid." Mae'n ffaith hanesyddol fod yn mhlith y Cymry ysgolheigion pan yr oedd eu cymmydogion y Saison yn farbariaid anllythyrenog, anwaraidd; ac nid oes un Cymro mewn perygl o anghofio i Alfred Fawr orfod anfon i Fynachdy Ty- ddewi am dri o wŷr i fod yn athrawon yn Rhydychain pan sefydlwyd y Coleg yno; a dyma eu henwau, yn nghyd ag enwau y canghenau o ddysgeidiaeth a ynigymerent à'u hesponio a'u heglurhau :—Asser, Grammar a Bhetoric; John Menevensis, Logic, Music, ac Arithmetic; John Eregena, Geometry ac Astronomy. O'r amser yr unwyd Cymru â Lloegr hyd adeg y Diwygiad Protestanaidd eawn gyfwng o ddirywiad ac anwybodaeth druenus. Nid oedd yn un syndod fod y Cymry yn anwybodus, gan mai yn y fìwyddyn 1540, neu rhwng hono a 1550, y cyhoeddwyd y llyfr Cymraeg cyntaf, sef cyf- ieithiad o'r Epistolau a'r Efengylau, a ddarllenid ar y Sul yn yr eglwysi. Yn 1555, cyhoeddwyd, gan Syr JohnPrice o Aberhonddu—tad yn nghyfraith Twm Sion Catti, sef Thomas Jones, Ysw., o Borth y ffynon, ger Tregaron—gyfieith- iad o Weddiyr Arglwydd, y Gr^do, a'r Deg Gorchymyn, ynnghyd ag eglurhad byr arnynt. Yn y flwyddyn 1567 cyhoeddodd Ẅilliam SaUsbury, cyfreithiwr