Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN: Cglcíjgrafon; CwcMaetíjal. Rhif. 2.] EBRILL, 1885 [Cyf. III. Y PARCH. J. OGWEN JONES, B.A. Y MA.E lluaws mawr yn Nghymru na raid iddynt wrth unrhyw ymdrech na chynorthwy i ddeffro a dal yn gadarn ynddynt goffadwriaeth y Parch. J. Ogwen Jones. Ni ddiflana ei lun a'i eiriau o'u meddyliau tra y byddant byw. Er nad ydym yn amcanu casglu cofiant iddo, ac na ddymunem agoshau at yr ymddangosiad o bwyso ei gymeriad a'i waith, eto, gall yr ychydig eiriau hyn ychwanegu at adgofion rhai o'i gyfeillion, a gwasanaethu fel un deyrnged fer i'w goíFadwriaeth. Yr oedd brodyr o'r gwahanol leoedd y bu efe byw ynddynt wedi ysgrifenu o'u calonau am dano ; a gobeithiem y caem wneuthur yr hyn a fuasai yn fwyaf gwerthfawr i ddarllenwyr y GrENlNEN, sef difynu yn lielaeth o'a hysgrifeniadau; ond ni chaniata gofod y Gexinex i hyn gael ei wneyd. O sir gynyrchus Caernarfon, fel y mae'n hysbys, yr hanodd Mr. Jones ; a than ofal clerigwr y derbyniodd yn foreu ran o'r addysg, manyldra yr hon ,1 synai ei gyfeillion. Er dechreu gyda marsiandîaeth, fel llawer eraill o wyr ieuainc Cymru, rhoddodd fasnach i fyny er mwyn ymroddi i fywyd efrydydd. Heb sicrwydd gweledig am gynaliaeth, trodd ei wyneb i Athrofa y Bala ; ond nid oedd i ffydd gymaint o anhawsderau allanol i'w gorchfygu yn ei hanes ef ag yn hanes y rhan fwyaf o efrydwyr. Cyn gadael y Bala yr oedd wedi enill ysgoloriaeth o öOp. Y pryd hyny yr oedd cymeryd gradd Llundain, yr hyn sydd bob amser yn anrhydedd uchel, yn fwy gwaith, ar rai cyfrifon, nag ydyw yn awr pan y mae ei safon wedi codi; ond yr oedd y gwr ieuanc yn ben- derfynol: ac wedi cymeryd Matriculation gydag honours yn 1856, ddwy flynedd ar ol hyny enillodd y B.A. Bu dwy eglwys fawr yn ymgystadlu am efrydydd a phregethwr mor addawol, sef Jerusalem a Birkenhead. I'r olaf yr aeth, ac yno y dechreuodd ei yrfa fel gweinidog eglwysig. O Birkenhead symudodd i Lerpwl, lle y bu yn cydweithio am beth amser â'r Parch. Henry Rees. Treuliodd y blynyddoedd nesaf yn Nghroesoswallt: ac yn y Rhyl, fel gweiaidog eglwys Clwyd-street, y terfynodd ei yrfa ddaearol. Drwy holl amser ei lafur gweinidogaethol teithiodd i bob rhan o Gymru i bre- gethu yr Efengyl. Wrth edrych yn ol ar ei fywyd cawn mai gyda duwinyddiaeth yr ydym yn ei gysylltu agosaf yn ein meddwl ein hunain ;—nid gyda phregethu yn unig, ond gyda duwinyddiaeth: y dduwinyddol, credwn, oedd yr elfen gryfaf ynddo a mwyaf ei dylanwad. Hyn oedd yn naturiol i un o'i duedd fyfyrgar a difrifol ef, a fagwyd yn amser John Elias, William Roberts, a John Jones o Dalysarn. Duwinyddiaeth yw, ynddi ei hunan, y ddyfnaf 0 bob gwybodaeth; a phan y traethir ei gwirioneddau gyda rhyw radd o deilwng ffyddlondeb a nerth, y mae megis yn agor dyfnder yn yr enaid, yr hwn y mae pob peth arall yn rhy fâs i'w lenwi. Yr oedd Mr. Jones yn cymeryd dyddordeb raewn llawer o bethau eraill. Yr oedd y duedd athronyddol yn gref ynddo. Nis gall hon eto beidio a chael ei chynyrchu, i ryw raddau, yn mhob gwir ym- chwilydd i dduwinyddiaeth. Yr oedd Mr. Jones hefyd yn dra hoff o wyddoniaeth, mewn amryw o ganghenau. Cymerai ddyddordeb bywiog