Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GE N I N E N: Cglcjjcjrafott Cmeìrlarfjjol. Rhif. 2.1 EBRILL, 1886. [Cyf. IV. Y DIWEDDAR DR. J. HARRIS JONES. 11. Yx ein herthygl flaenorol cyfyngasom ein sylw yn gyfangwbl at y prif ffeithiau yn hanes bywyd ein gwron. Bellach, y mae yn hwyr bryd i ni droi at y gorehwyl, nid llai dyddorol, nyni a obeithiwn, ond yn sicr mwy anhawdd, o gcisio beirniadu yn deg y prif Jiuellau yn ei gymeriad a'i athrylith. Tra yn ym- wneyd à'r maes hwn, ymdrechwn gadw yn ofalus oddiwrth arwr-addoliaeth ar y naill law ; ac, ar y llaw arall, ymddiofrydwn na cheir ni un amser " yn llunio bai lle na b'o." Dywed y ddiareb " de mortuis nil nisi bonum "—am y meirw dim ond y da\; ond wrth hyny ni olygir, dybygem, beidio gwneyd cyfìawnder â choffawdwriaeth y marw: a lle yr amcenir rhoddi darlun têg a chywir o holl fywyd a neillduolion yr ymadawedig, yn gystal er mwyn addysj i'r oes a ddèl, ag er anrhydedd i goffawdwriaeth y gwrthddrych, rhaid i'r anmherffeithderau gel rhsw gymaint oleyn y darlun yn gystal a'r rhagoriaethau a'r rhinweddau. Mewn dau gysylltiad arbenig y daw ger bron y cyhoedd, sef fel athraw ac fel pregethwr, ond amlwg yw fod a fyno ei gymeriad fel dyn a Christion lawer â'r saüe a gyrhaeddodd yn y ddau gysylltiad a nodwyd. Fel dyn yr oedd yn hynod am ei benderfyniad di-droi-yn-ol, ond ar yr un pryd yn llawn mwyneidd-dra a natur dda; yn ei ymwneyd â'i gyd-ddynion yn "ddiniwed fel y golomen," ac heb fod yn fyr yn y nodwedd gwbl-gyferbyniol—"yn gall fel y sarph." Y mae pen- derfynolrwydd ei natur yn dyfod i'r golwg yn amlwg yn ei ddyfaìwch mawr i gyrhaedd y nod mewn dysgeidiaeth a osododd o tlaen ei lygaid. Drwy y maith tìynyddoedd y bu yn parotoi, ni adawodd i ddim wyro ei olwg oddiwrth ynod Ÿ mae'n wir nad oedd ganddo i ymladd yn erbyn tlodi ac amgylchiadau anffafr- iol; er hyny, nid oedd ffordd freiniol iddo yntau mwy nag ereill i wybodaeth. Nid drwy ddywedyd "Ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig blethu dwylaw í gysgu;" ond drwy ymroddiad di-ildio yn hwyr ac yn foreu y cyrhaeddodd i ben y pinacl o enwogrwydd a fu wedi hyny o gymaint mantais iddo ef, a bendith i'w oes a'i genhedlaeth. Teilynga ei sylw- adau wrth ddynion ieuaingc ar y mater liwn eu hystyriaeth ddifrifol; ac y maent yn amserol yma, fel arddangosiad gwerthfawr o'r un nodwedd yn ei feddwl ef ei hun:—"Y mae llawer yn meddwl ac yn dyweyd fod dyn yn greadur amgylchiadau yn gyfangwbl; a thuag at wneyd ysgolhaig da a dyn o chwaeth, fod yn angenrheidiol i lawer o bethau allanol ffortunus gydgyfarfod a chydweithredu yn ei hanes—cael ei ddwyn i fyny o'r dechreuad yn nghym deithas boneddigion, a bod yn feddiannol ar gannoedd yn y fiwyddyn. Ond lle y mae gwir fawredd y mae rhwystrau yn gorfod symud, amgylchiadau yn derbyn gwedd newydd, ac yn cael eu gorfodi i wasanaethu ar yr arwr. Na fydded i neb amheu hollalluogrwydd natur, amheu mawredd y meddwl dynol —'ychydig is na'r angelion.' Na fydded i un mab athrylith anobeithio, beth bynag fyddo ei amgylchiadau; os oes ganddo ewyllys, ewyllys o'r iawn ryw, yna nid yw yn amddifad o allu i orchfygu yr holl rwystrau. Nis gall y march ysgallen ddôf dyfu ond mewn gerddi. Ý mae y fesen yn cael ei thaflu yn ddi-