Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyfrbs III—Rhif 7—Ebrill, 1883. CYFAILL-YR-AELWYD: MICHAEL STROGOFF, NEGESYDD Y CZAR. Gan Jules Verne. (Cyfaddasiad arbenig i " Gyfaill yr Aelwyd" gan Alltud Gwent.) [SYLW.— Cymerwyd y cyfaddasiad hwn, yn nghyd a'r darluniau, o'r copyright edition, trwy ganiatad arbenig y cyhoeddwyr, Mri. Sampson Low & Co , 188, Fleet atreet.] Penod XII.—Y Negesydd a'i Ymlidwyr. >U Michael yn ffodus i ymadael mor ebrwydd. Dygwyd gorchymyn Ifan Ogareff i'r swyddogion oedd yn gwylied y gwahanol fynedfeydd i'r ddinas, yn nghyd â desgrifiad cyflawn o Michael, er atal ei ym- adawiad o Omsk. Ond yr oedd ef eisoes wedi ymadael trwy un o'r bylchau oedd yn y gwrth- glawdd, ac yn awr yn carlaoiu yn gyflym dros y gwastadedd, a chan nad yinlidiwyd ar ei ol yn uniongyrchol, yr oedd pob tebygolrwydd y llwyddai i ddianc. Nid oedd eto ond haner y ôordd i Irkutsk, ac yr oedd yn ofynol iddo gyrhaedd yno yn mhen deng niwrnod, os oedd am gyrhaedd yno o flaen y fyddin Dartaraidd. Yr oedd yn amlwg iddo fod ei gyfarfyddiad â'i fam wedi bod yn achlysur i fradychu ac i wneyd yn hysbys yr hyn a geisiai efe gadw yn ddirgelwch. Gwyddai nad oedd Ifan Ogareff mwyach yn anhysbys o'r ffaith fod un o negeseuwyr y Czar wedi myned trwy Omsk tua Irkutsk, ar neges bwysig. Gwyddai Michael, gan hyny, y gwneid pob ymdrech i'w gael i'r ddalfa. Ond ni wyddai, a da iddo oedd ei iod mewn anwybodaeth o'r ffaith, fod ei fam yn nwylaw Ogareff, ac y byddai rhaid iddi, efallai, roddi ei bywyd yn aberth, mewn canlyn- iad i'w gwaith yn arddangos teimladau naturiol mawr, pan y cafodd ei hun yn annysgwyliadwy yn mhresenoldeb ei mhab. Prysnrodd Michael ar ei daith ; heb arbed ei anifail, gan hyderu y gallai ei gyfnewid am un arall yn yr orsaf nesaf. Teithiodd haner can' milldir cyn haner nos. Erbyn iddo gyrhaedd yr orsaf, cafodd ar ddeall fod y Tartariaid wedi cludo ymaith bob anifail a geid yn yr orsaf, a'r pentrefi o amgylch, a chydag anhawsder dirlawr y gallai gael hyd yn nod ymborth iddo ei hun a'i geffyì. Gwelndd fod yn rhaid iddo arbed yr anifail, mai colled fyddai iddo ei yru yn ormodol. Wedi gorphwys awr, cychwynodd eilwaith dros y gwastadedd. Weithiau cerddai wrth ochr yr anifail, dro arall eafai am enyd iddo gael ei anadl, tra y gwran- dawai yntau a'i glust wrth y ddaear, am swn carlamiad meirch ei erlynwyr. Boreu tranoeth, erbyn naw o'r gloch, yr oedd wedi cyrhaedd parthau corsiog y Baraba. Yn awr arweiniai ei ffordd am tua dau can' milldir trwy dir cleiog, yn llawn pyllau, corsydd, a llynoedd. Yr oedd ei lwybr yn amlwg o'i flaen, ond ei fod yn aml yn droellog, ar hyd glanau y llynau, neu'r corsydd. Yma thraw ar hyd y corsydd hyn y mae ambell bentref dinod, lle y preswylia bugeiliaid, y rhai a borthant eu praidd ar y gwastadedd hwn. Pan ganfu Michael fod yr anifail bron diffygio, penderfynodd orphwys am noswaith yn un o'r pentrefi hyn o'r enw Elamsk. Yma hefyd nid oedd modd cael moddion cludiad, er nad oedd y gelyn eto wedi ymweled a'r lle, yr oedd y rhan fwyaf o'r trigol- ion wedi ffoi i Kamsk, tref yn nghanol corsydd y Baraba. Boreu tranoeth, pan yn ymadael oddi- yno, gwelid blaenwylwyr y gelyn tua chwe' neu saith milldir o'r fan. Teithiodd dr<vy y dydd a'r nos, ac erbyn haner dydd tranoeth, y cyntaf o Awst, cyrhaeddodd Spaskoe. Dwy awr wedi hyn, gorfu iddo aros drachefn mewn lle a elwid Pokrowskoe, gan nad allai y ceffyl fyned gam yn mhellach. Wedi gorphwys y noson hono, teithiodd haner can' milldir tranoeth, a chyr- haeddodd Kamsk. Yma gallasai newid ei geffyl, neu gael tarantass, ond penderfynodd lynu wrth yr un oedd ganddo, gan ei fod wedi profi ei hun yn wydn ; ac yn alluog i ddal lludded mawr. Gofalai am y driniaeth a'r Uuniaeth oreu i'r anifail yn mhob man lle y gorphwysai. Oafodd noson gyfan o orphwys yn Kamsk, ond nis gallai gysgu, er maint ei ludded, gan ei bryder am ddyogelwch ei negeswriaeth. Teith- iodd dranoeth dros haner can' milldir, ac er fod y rhwystrau yn fawr, o herwydd ansawdd goreiog a llaith y tir, llwyddodd yn mhen deu- ddydd yn mhellach i gyrhaedd cyrau pellaf y Baraba. Yn y rhan hon o'r daith, ni allai glywed dim am ymgyrch y Tartariaid, gan ei fod yn gorwedd mewn rhan ganolog rhwng y ddwy adran fawr o'r fyddin ymoscdol, yr hon oedd