Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyfrhs III.—Rhif 10.—Gorphenaf, 1883. CYFAILL • YR • AELWYD: MICHAEL STROGOFF, NEGESYDD Y CZAR. Gan Jules Yerne. (Cyfaddasiad arbenìg i u Gyfaill yr Aelwyd" gan Alltud Gwent.) SYLW,—Cymerwyd y cyfaddàsiad hwn, yn nghyd a'r darluniau, o'r copyright edition, trwy ganiatad arbenig J cyhoeddwyr, Mri. Sampäon Low & Co , 188, Fieet street.] Penod XVII.—Yn Ddall. I lesghaodd calon Michael pan glybu ddedfryd yr Emir. Safai yn ddigyffro, a'i lygaid yn llawn aíored, fel pe byddai am grynhoi ei holl fywyd i'r edrychiad olaf hwn. Ni feddyliodd unwaith am apelio at dosturi y barbariaid creulawn hyn : gwyddai y byddai y cyfryw apêl yn waeth nag ofer. Meddyliai yn unig am ei neges, a'r genadwri a gariai. ydoedd erbyn hyn wedi troi yn fethiant. Meddyliai am ei fam ac am Nadia, y rhai ni chai efe byth weled mwy. Ond nid ymddangosai yr arwydd lleiaf, yn allanol, fod y teiinladau hyn yn ei gynhyrfu. Yna meddianwyd ef çan deimlad dialgar, a chan droi at Ogareff, dywedcdd mewn llais bygythiol:— "Ifan y Bradwr, bydd bygythiad olaf fy llygaid yn gyfeiriedig atat ti." Cododd Ifan ei ysgwyddau yn ddiystyrllyd. Ond yr oedd Michael wedi camgymeryd. Nid ar Ifan y byddai wedi sefydlu ei olygon pan y'i dallid ef. Safai Marfa Strogoff gerllaw. Canfu Michael hi, a llefodd allan :— " Fy mam ! Ie ! ie! arnoch chwi y ca fy llygaid syllu am y tro olaf, ac nid ar yr adyn hwn ! Safwch o'm blaen ! Gwelaf yn awr eich gwyneb hoff! Caiff fy llygaid eu tywyllu tra yn gorphwys arnoch chwi. . . !" Heb ddywedyd gair, dynesodd yr hen wraig ato. " Cymerwch y ddynes yna ymaitb," gwaeddai Ifan. Dynesodd dau filwr i ymaflyd ynddi ond cil- iodd hi yn ol, a safodd ychydig gamrau oddiwrth ei mhab. Qwnaeth y dienyddwr ei ymddangosiad. Safai gyda'r cleddyf yn noeth yn ei law—cleddyf eiriasboeth, newydd ei godi oddiar y tân. Yr oedd Michael i gael ei ddallu yn y dull Tartaraidd, sef dal llafn y cledd yn eiriasboeth o flaen ei lygaid. Ni wnaeth Michael un ymgais i wrthsefyìl ei gosb. Ni welai ddim ond ei fam. Yr oedd ei holl enaid wedi ei daflu i'r edrychiad olaf hwn. Safai Marfa gyda'i dwylaw yn estynedig tuag ato, yn syllu arno yntau. Pasiodd y cleddyf eirias o flaen Uygaid Michael. Clywyd gwaedd ingawl ac anobeithiol. Syrth- iodd ei fam oedranus yn ddideimlad i'r llawr. Yr oedd Michael Strogoff yn ddall! Wedi gweled ei orchymvn yn cael ei gyflawnu, y ddedfryd yn cael ei gweinyddu, ymadawodd yr Emir a'i ganlynwyr. Yn fuan, nid oedd yn aros yn yr ysgwar ond Ifan Ogareff ac ychydig o'r rhai a ddalient y ffaglau i oleuo y lle. A oedd yr adyn yn bwriadu rhoi rhyw sarhad pellach ar wrthddrych ei atgasedd ì Dynesodd Ifan yn arafaidd at Michael, yr hwn, gyda rhyw ymwybyddiaeth o'i ddynesiad, a ymsythodd fel milwr °er ei fron. Tynodd Ifan y llythyr ymerhodrol o'i logell, agorodd éf, ac yn y tnodd mwyaf gwawdlyd, daliodd ef o flaen golygon llosgedig y negesydd, gan ddywedyd :— "Darllen yn awr, Michael Strogoff, darllen hwn, a dos ac adrodd yn Irkutsk yr hwn a ddar- lleni. 0 hyn allan, Ifan Ogareff fydd negesydd yr Ymerawdwr." Yna gwthiodd y llythyr i'w fynwes, ac aeth yntau ymaith o'r lle, yn cael ei ddilyn gan y gwyr a'r ffaglau. Safai Michael yn unig, ychydig gamrau oddi- wrth ei fam, yr hon a orweddai ar lawr yn ddifywyd, efallai yn hnllol farw. Yn y pellder clywai floeddiadau a chaniadau, arwyddion fod y wledd a'r gloddest wedi dechreu. Gwrandawodd : nid ymdddangosai fod dim symudol yn agos ato. Yna aeth, dan ymbalfalu, tua'r fan Ile y syrthiasai ei fam. Ẁedi dyfod o hyd iddi, ymgrymodd hyd lawr, gosododd eiwyneb with ei gwyneb hi, a gwran- dawai am guriadau ei chalon. Yna dywedodd ychydig eiriau yn ei chlust. A oedd Marfa eto yn fyw, ac yn clywed yr hyn a ddy-