Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyfhes III.—Rhif 12.—Medi, 1883. CYFAILL • YR • AELWYD: MICHAEL STROGOFF, NEGESYDD Y CZAR. Gan Jules Verne. (Cyfaddasiad arbenig i " Gyfaill yr Aelwyd" gan Alltud Gwent.) Sylw.—Cymerwyd y cyfaddasiad hwn, yn nghyd a'r darluniau, o'r copyright edition, trwy ganiatad arbenig y cyhoeddwyr, Mri. tìampson Low & Co , 188, Fieet street.] Penod XX.—Gyda Chyfeillion a Ffoad- URIAID. RTH glywed y cri dolefus hwn, llesg- haodd calon yr eneth am foment, a llefodd gyda llais crynedig, "Nicholas! Nicholas!" Yr oedd Michael hefyd yn gwrando, ond ys- gydwai ei ben. "De'wch, Michael, de'wch," ebe Nadia, can ymwroli drachefn, ac ymaflyd yn llaw Michael i'w arwain. " Yr ydym wedi gadael yr heol," ebe Michael pan deimlodd ei îoà yn sangu y glaswellt. "Ydym.........rhaid iniwneyd !........." atebai Nadia. "Ar y llaw dde i ni, yn y cyfeiriad yma, yr oedd y swn !" Yn mhen ychydig fynydau yr oeddŷnt o fewn chwarter milldir i'r afon. Olywsant gyfarthiad drachefn, ac er ei fod yn wanach, yr oeddynt yn aicr ei fod yn nes atynt. Safudd Nadia. "Ie !" ebe Michael, "cyfarthiad Serko yw !... ......Y mae efe wedi dilyn ei feistr!" "Nicholas!" gwaeddai yr eneth. Ond nid oedd un atebiad. Cododd nifer o adar ysglyfaethus gerllaw iddynt, ac ehedasant ymaith. Gwrandawai Michael yn astud. Edrychai Nadia o'i chwmpas dros y gwastadedd, ond yr oedd yn rhy dywyll iddi weled yn mhell. Eto, clywsant eilwaith lais dolefus heb fod nepell oddiwrthynt yn galw, " Michael!" Yna rhuthrodd ci, wedi ei orchuddio â gwaed, tuag atynt, a llamodd ar Nadia. Serko ydoedd ! Nis gallai Nicholas fod yn mhell! Efe yn unig allai fod wedi galw enw Michael! Ond yn mha le yr oedd ì Yr oedd teimladau Nadia yn ei gorchfygu, ni allai alw arno eto. Syrthiodd Michael ar ei liniau a dechreuodd ymlusgo ar y ddaear, gan deimlo o'i gwmpas â'i üdwylaw. Yn ddisymwth, rhoddbdd Serko gyfarthiad ffyrnig, a rnuthrodd at aderyn mawr oedd wedi äisgyn gerllaw iddynt. Fwltur ydoedd. Pan ddynesodd Serko ato, cododd, ond dychwelodd a tharawodd y ci. î^eidiodd yntau i fyny tuag ato, ond tarawyd ef eilwaith ar ei ben gan big gref yr aderyn, a syrthiodd Serko i'r ddaear yn gelain. Yr un eiliad rhoddodd Nadia ysgrech o ddych- ryn. " Dyna fe !.........dyna fe!" meddai. Gwelid pen dynol yn unig ar y ddaear ! Yr oedd Nadia wedi taro ei throed yn ei erbyn yn y tywyllwch. Syrthiodd Nadia ar ei gliniau yn ei ymyl. Nicholas ydoedd. Yr oedd y Tartariaid yn unol â'u harferiad creulawn wedi ei gladdu hyd at ei wddf yn y ddaear, a'i adael yno i drengu o newyn a syched, neu i syrthio yn ysglyfaeth i fleiddiaid neu adar ysglyfaethus. Marwolaeth ddychrynllyd ydyw hon,—ni all y truan syflyd, y mae ei ddwylaw wedi eu rhwymo wrth ei ochr, a'r pridd wedi ei wasgu a'i sathru yn dỳn o'i amgylch, a'r dyoddefydd yn parhau yn fyw am ddyddiau, ac yn dymuno am y farwolaeth sydd mor hir cyn dyfod, os na syrth yn aberth i fwystfilod ! Yr oedd Nicholas wedi ei gladdu yn fyw, yn y dull ymaer's tridiau !...... Am dri diwrnod bu yn dysgwyl, yn dysgwyl y cymhorth oedd yn awr yn rhy ddiweddar yn ei gyrhaedd ! Dechreuodd Michael gloddio y pridd o amgylch Nicholas â'i gyllell! Nid oedd ganddo un offer- yn gwell. Agorodd Nicholas ei lygaid, ac adnabu hwynt Yna " Ffarwel, gyfeillion !" meddai. "Mae yn dda genyf fy mod wedi cael eich gweled un- waith eto! Gweddiwch drosof!.....-..." Dyna ei eiriau olaf. 1 Parhaodd Michael i geibio a'i gyilell, a chlirio y pridd ymaith, nes y rhyddhaodd gorff ei gyfaill. Gosododd ei law ar ei fynwes i deimlo a oedd ei galon yn curo.........Na, yroedd y galon gynhes, garedig, wedi rhoddi y curiad diweddaf! Penderfynodd ein gwron na cha'i corff ei gyfaill ei adael ar y gwastadedd i borthi adar