Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyfres IV.—Rhif 12.—Medi, 1884. CYFAILL-YE-AELWYD: tëtjíwMM Ptol at Wmttötẁ ö (ẅmry. Y GWLADGARWYR! GAN Y MEISTRI ERCKM ANN-CH ATRIAN. (Cyfaddasiad arbenig i "Gyfaill yr Aelwyd" gan Alltld Gwent.) Penod XIX.—Llythyr Gaspard. tUA dau o'r gloch boreu dranoeth, dechreu- odd eira ddisgyn ar y Donou. Erbyn toriad gwawr y dydd yr oedd y Gerrnan- iaid yn ymadael o Grandfontaine, Framont a Schirmeck. Gellid eu gweled yn y pellder, ar wastadedd Alsace, yn rhesi hirion ar eu hencil o'r lle. Cododd Hullin yn foreu, ac aeth i ymweled â'r gwahanol wersyllfaoedd. Wedi cyrhaedd yr esgynlawr, lle yr oedd y inagnelau, safodd am enyd i edrych o'i amgylch. Tudraw i'r ceunant, oddifewn i'r amddiffynfa, gwelai y milwyr Uudd- edig yn gorwedd ac yn cysgu o gwmpas y tanau, a'r gwylwyr yn cerdded yn ol a blaen ar eu gwyliadwriaeth. Wedi ei foddloni fod pobpeth yn iawn, dychwelodd i'r ffermdy. Mewn rhai o'r ystafelloedd, yr oedd rhai o'r clwyfedigion yn anesmwytho, ac yn galw am eu gwragedd a'u plant. Yn fuan wedi hyn deffrodd y preswylwyr, a chlywid eu lleisiau, a swn eu traed yn symud o fan i fan yn yr ystafelloedd. Yn fuan daeth Catherine Lefevre a Louise i'r ystafell lle'r oedd Hullin. " Wel T gofynai Catherine. "Wel, maent wedi ymadael, ac felly yn cyd- nabod ein bod ni wedi eu trechu." Ymddangosai yr hen wraig fel pe'n annghredu y newydd hwn. Edrychodd trwy y ffenestr er gweled a oedd y gelyn yn teithio tuag Alsace, ac ymddangosai yn bryderus ac ofnus trwy'r dydd. Tua naw o'r gloch daeth yr offeiriad Saumaize yno o bentref Cbarmes, i ddarllen y gwasanaeth claddu uwchben y meirw, y rhai a gladdwyd gyda'u gilydd, Ffrancod ac Ellmyniaid, ochr yn ochr, mewn ffos fawr, lydan. Ar hyd y dydd, cludid ymaith mewn certi ac yslediau, lawer o'r clwyfedigion, i'w cartrefi yn y gwahanol bentrelydd. Ofnai Dr. Lorquin wahardd iddynt, rhag iddynt gythryblu ac enyn twymynau, gan mor awyddus oeddynt i fyned. Tua phedwar yn y prydnawn, eisteddai Catherine ac Hulìin yn unig yn yr ystafell fawr. Yr oedd Louiae wedi myned i barotoi swper. Oddiallan parhäai yr eira i ddisgyn yn drwch- us. Eisteddai Catherine wrth y bwrdd yn fyfyrgar, gan barotoi rhwymynau i'r clwyfedig- ion oedd ar ol, mewn dystawrwydd hollol. " Beth sydd yn eich blino, Catherine ?" gofynai Hullin. " Yr ydych yn llawn prudd- der er y boreu, er fod pobpeth yn gweithio o'n tu." Gwthiodd yr hen wraig y llieiniau o'r neilldu, adywedodd, " Ydwyf, Jean-Claude, yn bryderus iawn." " Pryder am beth ì Mae'r gelyn yn encilio. Y mae Frantz Materne, yr hwn a anfonais i wylio eu symudiadau, a'r holl genhadon oddi- wrth Pirouette, Jerome a Labarbe. sydcl newydd gyrhaedd yma, yn sicrhau fod y Germaniaid yn dychwelyd i Mutzig. Bu Materne a Kasper yn Grandfontaine, a dywedant nad oes dim arwydd- ion o'r gelynion o gyfeiriad Saint-Blaize. Mae hyn yn profì eu bod yn ofni ymosodiad o gyfeir- iad Schirmeck. Beth, gan hyny, all fod yn eich poeni, Catherine ?" " Fe allai mai chwerthin am fy mhen a wnewch," meddai, " ond yr wyf wedi breudd- wydio, neithiwr." "Breuddwydio? Pw !" " Ië ; cefais yr un breuddwyd ag a gefais yn íy nghartref yn Bois-de-Chenes." Yn, yn fwy cynhyrfus, ychwanegodd : " Dywedwch yr hyn a tynoch, Jean-Claude, mi wn fod rhyw berygl mawr yn ein bygwth. Yr ydych chwi yn tybied mai baldorddi yr wyf, ond yr oedd yn rhywbeth heblaw breuddwyd—yr oedd fel hen hanes neu adgof am yr hyn fu fíynyddau maith yn ol. Tybiwn ein bod fel yr ydym heno, ar ol buddugoliaeth fawr, yn cydeistedd mewn ihyw adeilad coed mawr yn rhywle (nis gwn pa le), ond adwaenwn yr holl wynebau oedd yno. Yr oeddych chwi yn eu plith, a Marc Dives, Duchene, ac amryw sydd yn awr yn eu beddau. Yr oedd fy nhad yno, a Huw Rochart, o Har- berg, ewythr i hwnw fu farw neithiwr. Yr oeddym newydd enill buddugoliaeth fawr, ac yn llawenhau am hyny, pan gododd bloedd yn ddi- symwth, ' Mae'r gelyn yn dyfod !' a rhuthrodd