Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyv. VIII.—Rmv. 8.—Awst, 1888. CYVAILL ■ YE • AELWYD: NODION AR VESUR AC ODL. Gau y Paech. H. Elyed Lewis. I—Y Mesue Diodl. R yr olwg gyntav, dyma'r hawddav o'r holl vesurau; dyna'r rheswm ei vod wedi cael ei gamdrin mor ddiarbed. Nis gwn am un bardd Cymreig wedi gwneud gorchestgamp o hono ; ond, yn sicr, y mae yn deilwng o'r ymgais. Bai aml iawn ydyw diwedd- iadau eiddil, vel y deagys yr engreiftiau canlynol o'r " Emanuel:"— Heb ovyn cenad dy arweinydd : ao Yn ddiarwybod iddo hevyd. gan Vwriadu dỳchwel yma. O ediveirwch am vy nhrosedd, ac 0 ovid ac o ymbil, am l'r cerydd gael ei symud. Eto, gerddi Islwyn :— Yn Uanw dyfryn ar ol dyfryn ag Angylaidd vôr o addoliadol swn. Yh ei ddwyn 1 weled a thrag'wyddol lygad o Fordd a chyveiriad Duwdod. Pe darllenid y llinellau uchod a'r cyvryw yn naturiol, gwelid ar unwaith mai rhyddiaeth ydynt, yn hol'ol amddivad o bereiddsain gynenid yr av. en. Ni cheir Milton byth yn troseddu vel hyn. Ambell waith yn vwriadol er mwyn hynodi rhyw air pwysig, y mae yn rhedeg un linell i'r lla.ll. Er engraift :— Thence many a league, As in a cloudy chair, ascending rides Audacious, Here matter new to gaze the Devil met Undazzled. Firm they might have stood, Yet fell. Bai arall yn y Mesur Di odl ydyw unrhyw- iaeth sain wrth ddiweddu llinellau dilynol. Dylid amrywio y seiniau tervynol yn ovalus, er mwyn i'r glust gael ei boddhau yn y darlleniad. Dyma ddyvyniad eto o'r " Emanuel," lle y chwareuir gormod ar yr un sain :— Gan mthro arnynt mewn angerddol rym, Ysgubai hwynt o'i vlaen vel ysgeivn blu; Ei anadl a enynai'r mellt yn vwy Cynddeiriog eto—tynach, dynach vyth, Am danynt âi'r cadwynau tanllyd hyn : A'r melft o'u hamgylch, velly hyrddid hwy Ü vlaen rhyverthwy dig y corwynt cryv. V mae Bain yr y yn vyddarol yn y llinellau uchod ; tra yn y llinellau canlynol y mae yr am- rywiaeth seiniau wedi cynorthwyo i gynyrchu un o'r darnau mwyav peraidd yn yr holl gerdd :— Dodasant Abel dranoeth yn ei vedd, A chauwyd arno ! Casglai Eva ddail A blodau mân i'w hulio trosto'n do; A brigau tyner yr helygen brudd, Wylovus, a ymgauent uwch ei ben. Os yw y Mesur Di-odl i gael ei naturioli yn y Gymraeg, rhaid dysgu gwneuthur diweddiadau dillyn a seinber ; ac yn vwy na hyny, cymeryd goval rhag i'r iaith vod yn wasgarog a dibwynt. Y mae yr arddull pregethwrol mewn barddon- iaeth yn wrthun ac anvelus ; yn y Mesur Di- odl y mae y brovedigaeth i'w ddevnyddio yn grev. II.—Mesue Aeweol Cymeeis. A oes y vath beth ? Tueddir un i ateb nad oes. Y mesur a ddevnyddiwyd vynychav yn ddiweddar yw y mesur Pryddest—vel gan Elis Wyn o Wyrvai wrth ganu am " Vuddugoliaeth y Groes." Mesur dov, diniwed, diavael—heb ynddo ddim Cymreigrwydd pur. Gwnai y tro i Pope athronyddu yn ddillyn a dideimlad ar " Ddyn ;" ond y mae yn rhy veddal i ddal pwys dychymyg cryv a brwdvrydedd enaid ysbrydol- edig. Cymysgva sydd gan Iolo Caernarvon yn ei Arwrgerdd ar " Joshua "—y Mesur Di-odl (a hwnw yn lled veius) wedi ei anfurvio a darnau o Vesur Pryddest. Mewn chwareugerdd y mae hyn yn oddevol; ond y mae newid y mesur mewn arwrgerdd yn bechod anvaddeuol. Y mae yn dinystrio unoliaeth y dadleniad. Trueni na ellid cael gan Homer neu Dante i adael y cys- godion am dymor i veirniadu arwrgerddi ein Heisteddvodau. Byddai ganddynt "air bach i'w ddweyd "—heblaw ar y mesur. Bron na thybiwyv vod Williams, Pantycelyn, yn agosach i'w le nag un arwrgerddwr Cymreig, wrth ddewis y MesurNawved i ganu am "Theo- memphus." Dau vesur Cymreig glân gloyw yw hwn a'r Mesur Degved; y maent yn gryv, yn vywiog, ac yn amlsain. Gellid hevyd amrywio yr acen ar droion, vel y gwna Tennyson yn hapus yn ei " Locksley Hall," trwy redeg diwedd y rhan vlaenav o'r llinell i ddechreu yr aii ran; vel hyn:— " Love took up the glass of Time, and turn'd it in his glowing hands; Every moment, üghtly shaken, ran itself in golden