Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Otv. XI.—ähiv. 1.—Ionaw», 1891 CYYATLL YR AELWYD: cv îltttyíWp ÌMgÄÄ. -:o:- "N Flwyddyn arall aeth ar goll, A'i hofnau a'i gobeithion, A'i siriol wenau dysglaer oll, A'i galar ddagrau heilltion. Diolchwn i Ti, 'n Tad a'n Duw, Am roddion dirifedi; Rho' in' Dy ras i gadw yn fyw Y ffydd wnai'r saint ei chredu. Am Flwyddyn Newydd eto'n fraint, Down atat Ti â'n moliant; Diffyna'n tir rhag pob rhyw haint, Rho' ini hedd a llwyddiant. O ! maddeu aml droseddau'n gwlad, A chynydd pechod rhwystra; Rho' help i ochel drwg, O Dad, A'n cais am rinwedd llwydda. Oddiwrth bob ffaeledd 'ry'm am ffoi Trwy ddyddiau ein dyfodol, Fel gallom ein gwasanaeth roi I Ti, O Duw, 'n wastadol. O! Dad, o'th gariad, gwylia ni, Fel gallom yn fwy ffyddlon Trwy flwyddau'n hoes Dy foli Di, ,^ Fel mola'r glân angylion. Cyf. o'r " Meaux Bnẁary." T. C. ü.