Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cîv. IX.—Rhiv. 1.—Ionawr, 1889. CYYAILL • YE • AEL W YD: ^^tUiU Sllaal at Htmmẅ y %mnj. O'R PWLL GLO I GADAIR UNDEB Y BEDYDDWYR; Sef Nodion Bywgraffol am Y DIWEDDAR BAROH. NATHANIEL THOMAS, CAERDYDD. FREIDIOL, efallai, ydyw dweyd mai gweinidog pur adnabyddus yn nghyfun- deb y Bedyddwyr ydoedd y diweddar Barch. Nathaniel Thomas, gan fod ei euw, beth bynag, yn adnabyddus er's blynyddoedd meith- ion i'r rhan amlaf o drigolion y Dywysogaeth. Mab ydoedd Nathaniel Thomas i John ac Eleanor Thomas, a ganwyd ef yn y fìwyddyn 1818, yn Nghlydach, ger tref drystfawr Aber- tawe. Perthynai ei rieni i'r dosbarth gweithiol, ac o herwydd cyfyngder eu byd, ni chafodd eu plant ond y uesaf peth i ddim ysgol pan yn ieuanc Tra nad oedd Nathaniel ond plentyn, symud- odd ei rieni i Nantyglo, Swydd Fynwy. Yr oedd Nantyglo yr adeg hono yn fwy bywiog nag ydyw yn y dyddiau hyn, ac o herwydd bywiog- rwydd y lle yr oedd llawer o gyrchu tuag yno. Wedi cyrhaedd Nantyglo, bu Nathaniel Thomas o dan orfodaeth i weithio er mwyn rhoddi yr ychydig gynorthwy oedd yn ei allu i'w dad yn ei ymdrech i ddyfod â bwyd a dillad i'r teulu lluosog a chynyddol. Felly yr ydym yn ei gael yn dra ieuanc yn gweithio o dan y ddaear fel glöwr. Derbyniwyd ef yn aelod o eglwys Hermon, Nantyglo, trwy fedydd, gan ydiweddar Barch. John Edwards, gweinidog yr eglwys ar y pryd, yn mis Mawrth, yn y flwyddyn 1831. Adeg bwysig yn hanes bywyd pob dyn ydyw adeg ei droedigaeth ac amser ei ymuniad â chref- ydd Mab Duw. Mae o bwys maw i'r ieuanc yr adeg hono gael yr hyfforddiant goreu fydd yn bosibl er mwyn iddynt ddyfod yn ddefnyddiol yn eglwys Dduw. Nis gwyddom pa fath gyfar- wyddiadau a roddwyd i wrthddrych ein hysgrif ar yr adeg hon o hanes ei fywyd, ond, a barnu oddiwrth yr enwogrwydd a enillodd, yr oeddynt yn dda odiaeth. Wedi i Nathaniel Thomas ymuno â'r eglwys, bu yn ddiwyd iawn fel aelod o honi, a gwnaeth ei oreu i ymgyfarwyddo â'i holl reolau, er mwyn bod yn aelod teilwng a gwasanaethgar ynddi. Ymdrechodd gael meistrolaeth drylwyr o'r Beibl, a llwyddodd i raddan pell iawn yn hyn. Dygwyddodd un peth yn hanes ei fywyd yr adeg yma sydd yn werth ei gofnodi. Fel y dy- wedais eisoes, dynion cyffredin eu hamgylchiad- au ydoedd ei rieni. Ychydig iawn o arian a gav,sai y plant i wario neu i'w cadw at eu gwas- anaeth eu hunaiu, oblegid fod y draul o gadw y ty yn llyncu yr holl enillion. Ond yr oeddynt yn cael ychvdig hefyd i wneuthur fel y mynent â hwynt. Dwy geiniog yn yr wythnos a gawsai Nat^aniel gan ei dad i wneuthur â hwynt fel yr ewyllysiai. Ni welai llawer ddwy geiniog yn yr wythnos yn werth eu cadw, ond nid felly ein gwron parchedig; cadwodd ef hwvnt bob hatling nes iddo gael modd i brynu Beibl Cymraeg. Dyma ei Feibl cyntaf. Mae y Beibl hwn ar gael heddy w, a'i ddail càn ddued ag aeron Medi, nid yn herwydd camdriniaeth ei berchenog hy- gloduà, ond o herwvdd y defnydd mawr a wnaeth o hono. Y Beibl hwn fu yn gydymaith dyddan- us iddo am lawer iawn o flynyddau ; elai ag ef i'r capel ac i'r gwaith. Darllenai ef yn ofalua a chyson nes y daeth yn hynod gyfarwydd â'i gyn- wys iachus. Yr oedd cadw y ddwy geiniog fel hyn yn Uawer iawn gwell na'u gwario ar felusion, a phethau diwerth a diles ereill, fel y gwna, ysywaeth, llawer o blantos yn y dyddiau hyn, a digon tebyg yn y dyddiau hvny hefyd. Heblaw y lles a dderbyniodd i'w feìdwl a'i ysbryd drwy ddarllen y Gyfrol Santaidd, meithrinodd ys- bryd darbodus, yr hyn sydd yn ganmoladwy, a dysgodd werthfawrogi meddianau, yr hyn fu yn ffynonell o gysur iddo tra y bu byw. Mae gan yr hanesyn uchod wers bwysig i'w dysgu i ddynion ieuainc yr oes bresenol, oes sydd yn gwario miloedd o bunau yn fìynyddol ar oferedd. A gaf fì daer geisio gan bob dyn a dynes iea- anc a ddarlleno yr ysgrif hon i fod yn gynil ar eu henillion, ac yn lle eu gwario ar bethau ni- weidiol a difudd, eu gwario ar bethau sylweidol ì Pryuer y llyfrau goreu, a darllener hwynt yn fanwl. Mae cyflawnder o honynt i'w cael yn awr yn iaith eich gwlad, iaith eich mebyd, iaith yr aelwyd ar yr hon eich magwyd, a iaith yr addoldy lle yr offrymodd eich tadau weddia» taerion ar eich rhan pan oeddech yn blant diymadferth. Nid felly yr oedd pethau yn nyddiau bachgendod y diweddar Barch. Nathan- iel Thomas. Yr oedd llyfrau da yr adeg hoio yn brin ac yn ddrud, ac aílan o gyrhaedd dynion cyffredin eu hamgylchiadau. Yn mhen saith mlynedd ar ol iddo gael ei dderbyn i'r eglwys, ac ar daer gymhelliad y gweinidog a'r swyddogion, dechreuodd bregethu, ac yn fuan daeth yn bregethwr cymeradwy a i derbyniol. Pregethodd lawer yn eglwysi y gy-