Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y FRYTHONES. , Ebrill, 1890. HANES AM RAI O HEN DDUWIOLION Y PIL. |AE i'r gwragedd safle uchel eto yn nglyn âg achos crefydd yn y byd fel yr oedd yn nyddiau yr Arglwydd Iesu. Pan yn darllen hanes yr Eglwys o'i chychwyniad cyntaf i lawr drwy yr oesau, tueddir ni i gredu nad yw y gwragedd wedi derbyn cyfìawnder oddiar law ein haneswyr. Pan y darlunir rhagoriaethau'r Cristionogion o dan erlidigaethau, nid ydym ond yn anaml yn cael y gwragedd jm cael eu coffa, nid am nad oeddynt wedi bod yn gyfranog o'r dyoddefiadau, ac wedi dangos cymaint o wroldeb a'r rhai hyny mae eu henwau yn perarogli mor hyfryd yn ngarddCrist, oblegid nid ydynt wedi bod yn ol o feddu gallu i ddyoddef dros eu Gwaredwr, i'r un graddau ag y maent wedi profì eu bod yn ei garu. Y rheswm am hyny, fe allai, yw yr uchafiaeth sydd yn cael ei gyfrif i'r dyn, a'i sefyllfa allanol yn Eglwys Crist; ond mae genym seiliau digonol dros ddywedyd bod safle y gwragedd yn yr Eglwys yr un mor anrhydeddus a'r gwyr, o ran eu perthynas â Duw. Cynwysa ein penawd y syniad am bersonau mor uchel mewn gras, yr hyn a'u gwnaeth yn hynod ar gyfrif hyny yn mhîîth eu cyd- grefyddwyr a'u cymydogion ; eto, nid hynodrwydd gras yn gymaint, a'r ymarweddiadau naturiol hynod, wedi eu prydferthu gan ras y Nefoedd, i ni am eu dangos. Mae addysg a gwrtaith wedi gwneyd llawer i gyfanu y natur ddynol, fel nad ydym yn dyfod i gyfFyrddiad ond yn anfynych â chymeriadau hynod yn awr. Mae pobl ein \ dyddiau ni yn codi yn llawer tebycach i'w gilydd na'r rhai sydd wedi bod yma o'n blaen. Yn yr hen amser, fel y dywedir, yr oedd cymeriadau hynod yn lluosog, ac yr ydym yn dyfod i gyffyrddiad mynych â'r cyfryw yn sefydliad a chychwyniad eglwysi fel eiddo y Pil, a lleoedd gwledig heblaw. Nodweddir yr eglwys hon o'i dechreuad gan luaws o bethau hynod, y rhai sydd wedi ei gwneyd yn wrthddrych sylw neillduol yr holl wlad o amgylch, a dygwyd oddiamgylch luaws o'r amgylchiadau hynod sydd yn gysylltiedig âg hanes Eglwys Fethodistaidd y Pil, Morganwg, gan wragedd. Yr oedd yno lawer o wyr hynod hefyd ; ond gan mai i'r Frythones yr ydym yn ysgrifenu, ni wneir coffao honynt y tro yma. Yn mhellach, na ddysgwylied y darllenydd am fywgraffiadau, nac ychwaith holl neillduolion y cymeriadau yr ydym ar fedr eu henwi, a.m fod y fath bellder yn awr rhyngom, fel nas adwaenwn hwynt yn bresenol ond wrth eu hynodion. Treuliasom Cyf. XII. . . Rhif. 4.