Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

'RYTHONES. Cyf. I. MAI, 1879. Rhif. 5. ile. jN y flwyddyn 1784, collodd Dr. Anderson, physigwr enwog yn Norwich, yn nwyreinbarth Lloegr, ei wraig trwy farwolaeth ; a gadawyd ef yn weddw gydag unig ferch, y pryd hwnw yn bymtheg oed. Y foneddiges ieuanc hon fu wedi hyny yn unig gwmni ei thad, yn gystal ag yn unig feistres ei dŷ ; a chyflawnodd ei dyledswyddau a'r cyfrifoldeb arni yn y naill a'r llall gyda deheurwydd, synwyr, a serch edmygol. Yr Amelia Anderson hon, a enwyd wedi hyny yn Mrs. Opie, ac a adnabyddir fel awdures goeth, dyner, a galluog mewn rhyddiaeth a barddoniaeth, a fydd gwrthddrych ein coffa y tro hwn. Yr oedd Amelia Anderson yn un o'r merched y cyfrifir eu bod yn swynol o wedd, ac yn hawddgar o ysbryd—yn un o'r rhai hoff gan bawb. At ei swynion naturiol, ychwanegwyd iddi addysg ragorol. Talwyd sylw manwl i'w dygiad i fynu ; ac yr oedd sefyllfa y rhieni mewn cymdeithas yn eu galluogi 1 roddi iddi fanteision gwrteithiad meddyliol uwch na'r cyffredin. Rhwng y cwbl—serch mawr at gerddoriaeth, a llawer o fedr yn y cyfeiriad hwnw, yn enwedig i ganu, dychymyg bywiog a naturiol, parodrwydd ymadrodd—rhwng y cwbl, yr oedd Amelia Anderson yn ferch ieuanc dra addawol. Cyfrifid yn un o flodau tlysion a phersawrus y wlad a'r oes; ac ar ol llawer o amser, wedi i adfyd hefyd gyfranu tuag at berffeithio y cymeriad, profodd yn llonaid y dysgwjdiadau wrthi. Y brofedigaeth a'r golled gyntaf iddi, un hefyd a ddygodd ddylan- wad ar ei holl oes, ydoedd marwolaeth ei hanwyl fam, pan nad oedd hi eto ond pymtheg oed. Dywedir i hyn gymedroli llawer ar nwyfiant a gorfrwdfrydedd ei hysbryd, a dwyn ei chyneddfau ymresymiadol a dealldwriaethol i fwy o ymarferiad. Gwnaeth hi yn fwy difrifol, a dwys, ac ystyriol.