Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y BYD. Cyf I. Rhif 3. MAWftTH 1891. PRIS ÜWY GrElNIOG BETH AM BWNC Y MOR ? Tybiaf weled y darllenydd wedi ei daraw â syndod, ac yn deehreu holi: " 'Pwnc y Môr— beth y w hwnw p ' ' Pwnc y Tir' a adwaenom, oblegid y mae efe gyda ni yn wastadol, ar lwy- fan pob etholiad, ac yn ngholofnau pob newydd- iadur, ac o hyn allan bydd yn sicr o gael lle mewn cylchgrawn Cymreig—' Cwrs y Byd,' oblegid byddai y Cwrs, dan olygiad Dr. Pan Jones, heb ' Bwnc y Tir ' ynddo mor annaturiol ag arwrgerdd heb yr arwr ! Ond dyma ryw ' bwnc' ag yr wyf yn sicr nad yw yn arfer a throi yn nghynulliadau y pynciau Cymreig. Beth, atolwg, yw hwnw, * Pwnc y Môr ?' " Yn union gyferbyn a'r pwlpud, ar astell ysgwar, yn yr hen gapeì lle y'm dygwyd i fyny yn moreu oes, yr oedd y geiriau— "CoFIWCH Y MoäWYR." Edrychwn ar y geiriau hyny mor gysegredig a phe buasent yn adnod o'r Ysgrythyr, neu yn ychwanegiad awdurdodedig at y Deg Gorchy- myn; ac ni feiddiai neb fyned i'r pwlpud hwnw heb gyflawni gorchymyn yr astell cyn myn'd i lawr! Byddai y deisytìad, " Cofia y Morwyr," yn nofio yn mhob gweddi a ddyrchefid o'r hen addoldy hwnw, a llawer gwaith y gwelais ambell i hen bererin duwiol yn " codi hwyl" gweddi pan wedi troi allan i'r " môr," i ddilyn y rhai oeddynt "a'u goruchwylion hyd y dyfnder mawr." Ac nis anghofiaf byth fel y byddai y fodryb dduwiol a charedig, a fu yn lle mam i mi, yn ocheneidio yn ei chongl ar ambell noson ystormus, pan fyddai y dymhestl yn gwneud udgorn o'r hen simnai fawr, a'r ty yn crynu dan bwysau y gwynt. Gyda deigryn ar ei grudd y clywais hi yn dweyd wrth y plant amddifaid a gymerasai dan ei nawdd—" Wel, wel, mae ein lle ni yn weddol gysurus ar noson fawr fel hon; ond ar y morwyr, druain, y mae hi yn galed!" Ac yna dechreuai enwi a chyfrif y raorwyr perthynol i'r pentref yr oeddym yn byw ynddo, a chredaf ei bod yn gweddio ärostynt. Gallasai Duw ddarllen gweddi yn ei deigryn hi. Diau nad yw hyn ond engraifft o'r hyn oedd, ot iẅà o'r hyn y sydd eto mewn manau lle y mae rhai mewn pryder a gofal am y mor- wyr. Ond, ag edrych ar achos ein morwyr yn gyffredinol, ac yn. ol ei hawliau arnom, a ellir dweud ein bod ni fel cenedl wedi rhoddi y lle dyladwy iddo, yn enwedig yn ein newyddiad- uron, ein cylchgronau, ac ar ein llwyfanau gwleidyddol P Na feddylied neb fy mod yn awgrymu fod Pwnc y Tir yn cael gormod o sylw, na, mae hwnw yn haeddu y sylw a roddir iddo, a'r ymdrechion a wneir drosto, ac y mae mewn ystyr yn cynwys yr allwedd i agos bob pwnc gwleidydddol arall. Ond nid yw hyny yn newid dim ar y pwysigrwydd o dalu sylw i achos ein morwyr, neu yr hyn y dymunaf yn awr ei alw yn " Bwnc y Môr." Mae gan y morwr hawl i roi ei dystiolaeth yn llys y genedl yn erbyn y gorthrwm mawr y mae dano. Mae gan ddynion fel Mr. Samuel Plimsoll eu cen- hadaeth dros forwyr ein teyrnas, ac fel y mae wedi profi yn ei areithiau a thrwy y wasg, mae baich gortnrymder y morwr yn un trwm iawn. Cymerer ychydig ffeithiau allan o lyfr a gy- hoeddodd Mr. Plimsoll y flwyddyn ddiweddaf ar " Cattle Ships," a gwelir yn amlwg mor ddi- bris o fywydau morwyr, ac mor ddideimlad yn ngwyneb trueni eu teuluoedd, yw llawer o berchenogion llongau y deyrnas hon. Mae y Board of Trade yn cyfrif colledion ar y môr dan bum' colofn, ac mewn un golofn ceir " Missùig Tessels " yn unig. Mewn cyfnod o wyth mlyn- edd bu colledion y golofn hon, ar gyfartaledd, yn 944 mewn bywydau dynol yn flynyddol; ac yn ol tystiolaeth Mr. Rothery, y diweddar Wreck Commissioner, cafwyd allan gan y Llys- oedd Ymchwiliadol fod 46 y cant, cyfartal i 434 o fywydau yn flynyddol wedi eu colli o achos gorlwytho eu llongau. Mae peryglou anochel- adwy y morwyr yn ddigon heb iddynt gael eu hychwanegu gan ddynion gorthrymusac arian- gar. Mae profion diamheuol fod llu mawr o berchenogion Ilongau lawn mor orthrymus a chaled-ga lon ag ydyw y rhai gwaethaf o'r tir- arglwyddi. Cymerer hanes y llong "Erin" er ergraifft. Gadawodd "Erin" perthynol i'r Nationaí Line Company, New York yn Rhagfyr,