Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWE8 Y BYD. Cyf I. Rhif 5. MAI, 1891. Pris Dwy G-einiog. YR OLWYNION GWLEIDYDDOL YN TROI. Mawr mor ffyddlon yw y wasg Seisnig i gofnodi gofidiau gwerinlywodraethau y byd, gwna i bob anghydwelediad gan nad pa mor fychan y byddo, i ymddangos fel mynydd, a phob croes ddadl, gan nad pa mor ddibwys, i swnio fel chwildroad. Pe dim ond ysgrifbin yn syrthio ar lawr y senedd-dy yn Ffrainc, cyhoedda fod yno ddaeargryn, a cheir gweled hysbysleni mawrion allan dranoeth yn cyhoeddi fod y weriniaeth yn barod i farw, ac y mae y dull gwasaidd yr ail adrodda y wasg Gymraeg y cyfryw freuddwydion yn ddigon i godi cyfog ar geffyl haiarn. Pe dim ond dau seneddwr yn Ffrainc yn methu cydweled am degan dimau, cyhoedda y Timcs, "grcat crisis in Francc," cymerir ei tìoedd i fynu gan ei gynffonwyr, a chludir yr adsain gan bob papyr dimau i gonglau eithaf Cymru, ac awgrymir yn gyfrwys yn nghynffon pob adroddiad, " nas gall gweriniaethau sefyll yn hir," ond pan fyddo Bismarc yn syrthio yn Germani, gweinyddiaeth yr Eidal yn drysu, yr Yspaen yn ei gwaed, Groeg fel crochan yn berwi, a Rwssia fel pe dan warchae rhyfel; ni wneir fawr sylw o honynt, a theflir llen o ddistawrwydd drostynt, fel pe yn bethau di- bwys, a hyny yn unig er dangos fod y ffurf lywodraethau brenhinol ac ymerodrol yn ddi- sigl. Ond cenfydd y neb a gymero drafferth i edrych fod y cynyrfiadau fydd yn cymeryd lle yn y gwahanol weriniaethau yn cael eu hachosi yn gyfangwbl gan gysylltiadau brcnhinoedd byw, neu gan weddillion rhai meirw. Gellir bod yn sicr fod yr holl gymylau bychain fydd yn ymddangos o dro i dro yn awyrgylch wleid- yddol Ffrainc yn codi o gylchoedd afiach brenhiniaethau Lloegr, Geimani, neu yr Aipht, neu yn cael eu creu gan yr ysprigod gweddilledig o deulu Bourbon Nimrod, neu Napoleon Nimrod, un o'r rhai sydd newydd orphen ei gwrs ; ond yn anffodus, y mae dau Nap. bach ar ei ol, a'r unig gysur yw fod un o honynt yn ddisynwyr, a'r Uall yn ddibarch. Dygwyd holl helbulon diweddar y Weriniaeth Arianin {Argentine Rcpublic) o gwmpas drwy ystrywiau y benthycwyr Seisnig, Baring Bros., wedi cael o honynt y llywydd i'w llaw, rhoddasant allan symiau anferth o arian ar adnoddau y wlad y rhai, fel y gwyddid, nad allent gael yn ol mewn pryd, ond y bwriad oedd mae yn amlwg yn awr, cymeryd meddiant o'r wlad hono, fel y cymerwyd meddiant o'r Aipht wedi i Goschen roddi benthyg, a phe Uwydd- asent yn yr amcan, buasent yn anfon yno heidiau o hogiau balch, segur, dan enw " ffarmio," tollau y wlad i gael eu harian yn ol, fei y gwneir yn yr Aipht, ond yn anffodus, " cyfrifwyd y cywion cyn eistedd o'r iar," a bu raid iddynt ddeall, "nad ellid lladd y "Weriniaeth Arianin heddyw fel yr oeddid wedi gwneud a'r Aipht ddoe." Tybed, oni buasai am y deall- dwriaeth hwn, y buasai y llywodraeth yn agor y banc mor barod i'w cynorthwyo o'u trybyni. Cyhoeddai y papyrau Seisnig yr amser hwnw filoedd o chwedlau o nyddiad cartref, gyda'r unig amcan o ddiraddio " gweriniaeth." Gwneir yn debyg yn awr a Chili, dywedir fod yno ymladdfeydd a thywallt gwaed erchyll yn cymeryd lle, a bod pob peth drwy y wlad wedi ei droi a'i du chwith allan, ond y gwir yw na fu yno derfysgoedd nac ymladdfeydd agos