Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y BYD. Cyf I. Rhif 9. MBDI. 1891. Pris Dwy Geiniog. TREFN O'R TRYBLITH. (Parhad o tudalen 147.) MEWN gwirionedd, dyben y dosbarth y son- iwyd am dano yn y rhifyn diweddaf, mewn cymdeithas ydyw gwasgaru nwyddau rhv:ng y gwahanol aelodau. Faint o honynt sydd yn gwybod hyn, a pha nifer o'r rhai sydd yn gwybod sydd yn ufuddhau i'w cydwybodau ? Nis gellir beio neb o honynt am beidio ufuddhau. Nid y bobl sydd i'w beio yn gymaint a'r gyfundrefn. Y mae dyledswydd y masnachwr yn un wir anhawdd, am y rheswm nad oes yn yr alwedig- aeth o fasnacnu ar wahan i bentyru cyfoeth ddim ag sydd ynddo duedd i beri i" ddyn weithio, nac ychwaith yn y gwaith ei hun yr hyn sydd a thuedd ynddo i godi sefyllfa dyn yn ddeallol na moesol. Rhaid i'r masnachwr os am wella ei hun mewn gwybodaeth o unrhyw fath wneud hyny yn anibynol ar ei alwedigaeth, mewn geiriau eraill, ei wneud yn ei amser hamddenol,—yr hwn ar y cyfan sydd yn wir brin. Nid oes mewn masnach ddim ag a ellir ei alw yn ddyddorol. Am y rheswm hwn— rhaid ystyried y masnachwr sydd wedi gwneyd cynydd mewn unrhyw wybodaeth fel un uwch- law y cyffredin mewn gallu, ac fel un sydd wedi gwneud y goreu o'i amser. Y mae gan yr amaethwr ei dir i'w drin, ei gnwd i'w wylio, ei anifeiliaid i'w magu; yr hyn waith pan ei gwneir er mwyn cyniídeb amaethyddol, sydd yn cynwys dyddordeb mawr hyd yn nod yn y sefyllfa bresenol ar amaethyddiaeth. Y mae gwybod sut ì drin tir er cynyrch y cnwd goreu o rawn a llysiau yn ddigon o waith sydd yn orlawn o ddyddordeb i foddloni y meddwl mwyaf uchelgeisiol. Dylai pob amaethwr wybod yn gywir nodweddion y tiroedd sydd dan ei ofal drwy fod yn alluog ei hun i'w dad- ansoddi yn allofyddol a fferyllol. Drwy hyn, yn nghyd a chyflwr ei diroedd mewn perthynas i'r tywydd—gwynt, dwfr, a haul—ac hefyd nodweddion organaidd y planhigion, deuai i wybod beth i'w dyf u, a pha ranau o'i diroedd sydd yn naturiol gydweddua natur unrhyw blanhigyn. Ond rhaid cyfaddef mai anmhosibl ydyw i'r amaethwr yn y dyddiau presenol gymeryd y dyddordeb dyladwy yn ei dir, am y rheswm syml nad yw y tir mewn gwirionedd dan ei ofal. Pe gwnai, byddai y landlord yn o fuan ar ei war. Symuder y landlord, ac fe geir fod amaethyddiaeth yn science; ac ynddi ddyddordeb uwchlaw yr hyn a freuddwydiodd yr anmethwr mwyaf brwdfrydig. Fe berthyn i fwyafrif o'r galwedigaethau ddyddordeb ag sydd yn ad-dalu y drafferth o'u dysgu. Am fasnach, nis gellir dweyd hyny. Dibyna masnach bron yn gylangwbl ar y duedd- fryd sydd mewn cymdeithas i bentyru cyfoeth. Cyfeiriwyd uchod at y gwastraff sydd yn naturiol gydfyned a'r gyfundrefn bresenol. Y mae yn amlwg i bawb fod yn anmhosibl i ni gyrhaeddyd cynildeb cymdeithasol tra erys y gwahanol aelodan yn anibynol ar eu gilydd mewu gwaith. Cymei-wn y masnachwyr llaeth fel engraifft syml o'r hyn sydd yu cymeryd Ue mewn cymdeitbas drwyddi draw. Y mae gwerthu llaeth yn ein dinasoedd yn waith neillduol, yn alwedigaeth, Fe ddaw i'r un heol os o hyd gweddol, yn ein trefydd yn aml, ddeg o wahanol gerti llaeth wedi cychwyn o wahanol laethdai mewn gwahanol heolydd. Wrth weled y rhai hyn, y syniad cyntaf a ddigwydd i ni ydyw fod y Uaethwyr feí pe dan lw i wastraffu amser, a gofynwn paham na wnai pob llaethwr gadw at ei ystryd ei hun ? Y mae pob llaethwr yn rhedeg ei gert filldiroedd íawer bob dydd er enill ychydig sylltau, yr hyn a gymer iddo oriau i'w gyflawni, tra y gallai heb na chert na cheffyl wasgaru yr un faint o laeth mewn ychydig fynydau, pe talai sylw ond yn unig i'w heol gartrefol. Cystadl- euaeth sydd yn gyru'r dyn allan o'i ystryd ei hun, a rhaid iîdo er enill eifara fyned i heolydd dieithr. Cofier fod y dyn nid yn unig yn tylodi ei hun wrth wastraffu amser, ond yn tylodi cymdeithas hefyd. Y mae y math hwn o wastraff yn anwahanedig oddiwrth gystadl- euaeth, a hwn ydyw un o brif achosion tylodi y byd. TJn o brif amcanion socialaeth ydyw trefnu a gwasgaru llafur mewn cymdeithas fel na byddo dim amser ac yni yn cael eu colli. Mewn tref niad da y mae yn bur sicr pe byddai i bawb weithio am tua phedair neu bum awr y dydd o'r ugain oed i fynu hyd yr haner cant deuai i feddiant pob aelod o gymdeithas