Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWES Y BYD. Rhif 19 GORPHENAP, 1892. CyfII Ail-drefniad Cymdeithas. Gan R. J. Derfel. PE gofynid i mi pa beth yw y pwysicaf o'r holl bethau sydd yn galw ac yn hawlio sylw diwygwyr yr oes bresenol, atebwn yn ddibetrus, " Aildrefniad Cymdeithas." Dyma yn ddi- ddadl yw y pwnc mawr sydd yn cui-o wrth y drws, ac yn gwrthod tewi nes cael y sylw a hawlia; ac fe ddeil i guro yn uwch ac yn uwch nes y bydd y rhai sydd mewn awdurdod yn gorfod gwrando a chydsynio â hawliau y bobl. Wrth son am ail drefnu cymdeithas, y peth cyntaf i sylwi arno ydyw y drefn sydd ar gym- deithas yn bresenol, a'r achos neu'r achosion ag sydd yn galw am ddiwygiad. Mae yr achosion hyn mor luosog, amrywiol, a mawrion, fel nad ellir yn yr amser at ein gwasanaethynbresenol ond taflu cipdrem arnynt—rhyw braidd- gyffwrdd a'r penaf a mwyaf amlwg o honynt. Am y drefn bresenol ar gymdeithas gellir dyweud yn gyntaf mai trefn ddi-drefn, cynllun di-gynllun ydyw'. Yn Caban F'ewyrth Ttum un o'r cymeriadau ydyw Topsi. Pan ofynwyd iddi pa bryd y ganwyd hi, atebodd : " Ni anwyd fi o gwbl, tyfu wnaethum i." Felly y gellir dyweud am gymdeithas;—tyfiad ydyw. Pan edrychir ar dŷ neu offeryn neu beiriant, gellir gweled yn mhob un o honynt arwyddion o f wr- iad a dyfais. Mae yn amlwg eu bod wedi cael eu gwneud yn ol cynllun a fodolai o'u blaen. Ond nid oes un gymdeithas ar wyneb y ddaear ag y gellir dyweud am dani, yn ei holl gysyllt- iadau, ei bod yn byw ac yn bodoli yn ol plan a dynwyd o flaen y gymdeithas ei hun. Pe teflid tynelli o geryg o ben y mynydd i lawr i'r gwastadedd, mae yn bosibl y gallai y ceryg, ar ddamwain, ymffurfio yn ogof, neu ystafell, neu yn fath o dy,—gyda rhywbeth tebyg i ddrws a ffenestr yn perthyn iddo,—ond trefn ddi-drefn fyddai arno, oblegid ar ddamwain y gwnaed ef. Felly yn benaf y ffurfiwyd cymdeithas. Dad- blygiad ydyw. Yn y dechreu, pan oedd y bobl yn ychydig mewn nifer, a digon o le iddynt hcb gyfyngu y naill ar y Uall, nid oedd angen am gyfundrefn helaeth a manwl i'w rheoli, ac yr oedd pob teulu yn gyfraith iddo ei hun. Bob yn dipyn, fel y mae golud yn cynyddu, mae rhyw un mewn ardal yn taflu golwg ddeisyfgar ar olud ei gymdogion, ac yn penderfynu eu meddianu drwy fodd neu drais. Mae yr un hwnw yn ddigon tebyg yn fwy cawraidd ei gorff ac yn f wy cyfrwys a dichellgar na'i gym- dogion, ac felly yn cael y llaw uchaf arnynt. Wedi cael y bobl i lawr, mae yn gwneud ei hun yn benaeth. O hyn allan, nid yw y bobl ond caethion i'r penaeth. Y penaeth sydd yn rheoleiddio pob peth. Mae y tir yn perthyn iddo; a rhaid talu iddo am hawl i'w ddefnyddio. O'r cyfoeth a enillir trwy lafur, rhaid rhoi rhan fawr i'r penaeth. Ac os ymosodir ar y penaeth, neu os ymosoda efe ar rywun arall, mae yn rhaid i'r bobl ymladd drosto, ac aberthu eu bywyd i'w gadw ef rhag niwed. Rhywbeth yn debyg i hyn ydoedd dechreuad cymdeithas ; ac nid yw y drefn a fodola yn bresenol ddim amgen na dadblygiad o honi. Yn ail, trefn hunanol ydyw i gorfF y bobl. Ei harwyddair ydyw, " Pob un drosto ei hun." Yn awr, pe buasai pawb yn gyfartal o ran maint a grym corfforol, yn gyfartal o ran gallu meddyliol ac addysg, ac yn gyfartal o ran profiad a chyfleusderau, fuasai dim cymaint i'w ddweud yn eu herbyn. Ond yma, anghyfartal- wch yw y rheol. Mae rhai yn gryf a llawer yn wan. Mae rhai yn iach a llawer yn afiach. Mae rhai yn ddysgedig a llawer yn annysgedig. Mae rhai yn byw yn nghanol cyfleusderau a llawer heb un cyfleusdra yn eu eyraedd. Mewn amgylchiadau fel hyn nid yw bywyd a'i bleser- au yn ddim amgen nag ymgiprys, lle mae yr oll neu agos yr oll o'r gwobrwyon yn rhwym o fyned i'r cryf a'r dysgedig. Pa obaith sydd i'r gwan yn erbyn y cryf ? i'r anllythyrenog yn erbyn y dysgedig ? ac i'r tlawd yn erbyn y cyfoethog ? Fel rheol, dim; mewn gwirionedd, dim ! i'r unig rai a ffefrir gan y drefn bresenoí ydynt y cryf a'r cyfrwys. Nid yw bywyd i'r lluaws ddim amgen na brwydr o'r cryd i'r bedd, ac yn y frwydr am fara beunyddiol mae miloedd yn cael eu gwthio i'r wal a'u mathru o dan draed i farwolaeth. Mae rhai yn llwyddo,—yn casglu arian werth myrddiynau, a'r bobl wirion-ffol yn eu haddoli oblegid yr aur sydd ganddynt. Ond beth yw llwyddiant