Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

OWRS Y BYD. Rhif 20 AWST, 1892. CyfII Ail Drefniad Cymdeithas. Gan B J. Derfel. [PARHAD O'E RHIFYN DIWEDDA.F.] Y sylw cyntaf ydyw fod miloedd o wyr doethaf a dysgedicaf y byd yn cydnabod fod rhywbeth mawr allan o le mewn cymdeithas fel y mae, a bod cyfnewidiadau a diwygiadau mawrion yn angenrheidiol cyn y bydd pethau fel y dylent fod. Mae cynhyrfu am gyfnewidiad yn mhob man drwy yr holl fyd gwareiddiedig. Yr ydym ninau fel Cymry yn dechreu ymwingo ychydig, ac yn gadael i'r byd wybod ein bod yn teimlo nad yw pob peth yn iawn yn y drefn bresenol, ac y mae y cynhyrfiadau hyn am ddiwygiadau yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o'n hargyhoeddiad fod eisiau newid y drefn. Y. diwygiadau y cynhyrfiram danynt gan y Cymry ydynt y rhai canlynol:—Dadgysylltiad a Dad- waddoliad yr Eglwys Wladol; Diwygiad yn neddfau y tir, ac ambell i fìoedd wan am Reol- aeth Gartrefol. Ar y pethau hyn yr wyf yn cytuno, i raddau o leiaf, a'rdiwygwyr cyffredin. Ond wedi cael yr holl bethau hyn i ymarferiad, yr ymholiad pwysig ydyw, Faint gwell allan fydd corph y genedl nag ydyw yn bresenol ? Ŵrth ymdrin â'r pwnc hwn rhaid cofio o hyd mai gweithwyr tlawd sydd yn gwneud i fynu gorph y bobl. Wedi cael y diwygiadau y ceisir am danynt—ac yr ydym yn rhwym o'u cael— faint cyfoethocach fydd y chwarelwyr, glowyr, crefftwyr, gweision a morwynion yr amaeth- wyr ? Fydd oriau eu llafur yn llai P eu gwaith yn ysgafnach ? eu cyflogau yn uwch ? eu hym- borth yn well ac yn helaethach P eu gwisgoedd yn well ? eu tai yn well P a raoddion mwyniant a dedwyddwch yn fwy cyrhaeddadwy iddynt ? Yr wyf yn ateb yn ddibetrus. Dim, os yw y diwygiadau i derfynu gyda y rhai hyn. ln yr Iwerddon, mae yr Eglwys wedi ei dadgysylltu a'i dadwaddoli, a'r degwm wedi ei ddiddymu, a deddfau y tir wedi eu diwygio, ond y mae y tlodion yno mor dlawd ac mor luosog ac erioed. Y gwirionedd y w, nid oes un diwygiad a wna les gwirioneddol a pharhaol i gorph y bobl heb ail drefnu cymdeithas o'i gwraidd i fynu. Yn y fan yma y mae dechreuad y gwahaniaeth rhwng y cy mdeithaswyr a'r diwygwyr cyffredin. Os edrychir ar gymdeithas fel pren a rhai o'i ganghenau yn dwyn ffiwythau gwenwynig a maiwol, mae y diwygwyr cyffredin yn meddwl fod tocio tipyn a thori ambell i gangen ymajth, yu gymaint o ddiwygiad ag sydd eisiau, ond y mae y cymdeithaswyr ynhaeru fod y pren mor ddrwg, a'i ffrwythau mor wenwynig nad ellir byth ei wella, ac y rhaid ei dynu ymaith o'r gwraidd a phlanu pren byw a iach yn ei le. Os edrychir ar gymdeithas fel adeilad, mae y diwygwyr cyffredin yr meddwl fod adgyweirio yr adeilad y n ddigon ; ond y mae y cymdeithas- wyr yn credu ac yn haeru fod yr adeilad yn rhy gregin i'w adgyweirio, ac y rhaid adeiladu adeilad newydd cyn y gellir diwallu angen- rheidiau yr oes bresenol. Wnaiff trwsio cym- deithas mo'r tro,—rhaid ei chreu o'r uewydd cyn byth y gwelir trefn arni. Ond a ellir ail drefnu cymdeithas ? Os gellir, pa fodd ? Mae yr ateb yn barod—Gellir. Yn gyntaf, drwy genedleiddio y tir a'i holl drysorau : y bobl bia y tir a'r holl drysorau yn y tir. Drwy ysbail a gorthrwm y dygwyd ef oddiarnynt. Eiddo lladrad ydyw y tir lle bynag y mae yn eiddo personol i unrhyw unig- olyn. Nid oedd gan neb hawl ond hawl yr ysbeiliwr i'w gymeryd na'i werthu na'i brynu. Etifeddiaeth y bobl ydyw y tir, ac i drysorfa y bobl y dylai y rhenti fyned. Wedi cael y rhenti i drysorfa y wlad yn lle i logellau unigolion, gellid diddymu pob treth, yr hyn fyddai yn elw uniongyrchol oddiwrth y tir i bob person yn y wlad. Yn ail, drwy genedleiddio gweithiau, peirian- au, ac offerynau gwaith. Gwneler y chwarelau, y gweithydd glo, y Uaw weithfeydd.aholloffer- ynau gwaith yn eiddo y cyfundeb neu y wlad- wriaeth, yn lle personau unigol. Ac yn drydydd, drwy genedleiddio yr elw oddiwrth drafnidiaeth, ac yn enwedig yr elw dirfawr sydd yn tarddu oddiwrth luosogiad y boblogaeth, yr hwn elw sydd yn myned i ìogell- au peraonau uuigol, a hyny yn hollol anghyfiawn. Mae hyn yn cael ei wueud yn barod yn y llythyrdy a'r pellebyr. Mae yn cael ei wneud yn Manchester yn y gwaith dwfr a nwy, ac y mae yn eithaf posibl gwneud yr un peth a gweithfeydd yr holl wlad.