Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y BYD. Rhif io. HYDREF, 1895. Cyf. V. Y DÛAEAR I'R BOBL. Rhaglen. CREDO A CHYNLLUNIAU CYMDEITHAS Y DDAEAR I'R BOBL. 1. NA DDV LID GüDDEF TIR YN EIDDO PERSONAU pNIGOL, O HERWYDD---- r. Fod hyny yn rhoddi hawl i ychydíg o bersonau ar yr holl gynydd yn ngwerth tir, fydd yn cael ei achosi gan ddadblygiadau Cyuideithasol, yn yr hyn y raae Uaw gan yr holl Gymdeithas. 2. Fod hyny yn rhoi gallu i landlords ormesu ar, a drysu amgylchiadau a bywoliaeth y rhai nad oes ganddynt dir, a'u gwasgu i ufudd-dod gwlad- ol a chrefyddol. 3. Fod awdurdod y ìandlords a buddianau y tenantiaid, yn dyfod yn fynych i wrthdarawiad, ac felly yn rhwystro i'r ddaear gael ei thrin yn y modd goreu. 4. Fod y landìord, dnny gymeryd rhan fawr o lafur y gweithiwr. drwy gymeryd meddiant o diroedd cyffredin, (Common) y wlad, a thrwy chwalu tai, a mân dyddynod i wneud lle i helwriaeth, yn gwasgu y werin yn barhaus, yn ddyfnach, ddyfnach i dlodi 5. Fod hyny yn rhoddi hawl i'r landlords dros y glo a'r mwnau, y rhai sydd yn perthyn i'r llywodraeth, ac yn eu galluogi i gau i'w buddianau eu hunain, y llanerchau prydferth ddylent fod yn agored i'r werin. 6. Fod hyny ar ífordd y lluaws i adeiladu tai lle y byddai yn gyfleus iddynt, ac fel y dymunent; a'r lle y caniateir adeiladu, mae yr amodau mor anfanteisiol, fel mai ofer disgwyl i neb adeiladu ty da. II. EGWYDDORION HANFODOL TIRFEDDIANT. t. Fod hawl i'le i fyw gan bob dyn ar wyneb y ddaear; nid gan ddyn y gwnawd y ddaear; nis gall dyn ychwanegu ati, ac nis gall fyw hebddi. Nis gall fod mwy o hawl wreiddiol, neu gynhenid, gan y naill iddi mwy na'r llall. Gan nad faint o hawl sydd gan ddyn dros, neu i'r llecyn lle y