Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y RYD. Rhip 5. MAI, 1896. Cyf. VI. Y SAESON YN TRAWSFEDDIANU. Gwna ymgyrch bresenol y Saeson i'r Soudan ì nì gofio hanes y lleẅ oedd eisiau esgus dros larpio yr oen bach. " Fe fuost ti," meddai, "neu dy dad, neu dy daid yn aflonyddu arnaf fi ryw dro pan oeddwn yn yfed dwí'r ar fin yr afon, ac fe larpia di yn awr am hyny." Rhaid fod y Saeson yn myned yn ol at dadau a theidiau yr Affricaniaid presenol i edrych am esgus dros y cadgyrch hwn i'r Soudan, yr hwn a gostia filiwnau o bunau, ac a fydd yn ddinystr ar filoedd o fywydau pobl dduon, yn gystal â phobl wynion. Aeth yr arch-ragrithiwr hwnw, Gordon, fìyn}'ddoedd yn ol, i fynu ì Kartoun yn enw angel y goleuni, ond wedi i bobl Kartoun omedd plygu iddo, a rhoddi eu gwlad i fynu i"r Saeson efe a droes yn gythraul, a dywedodd, " We must smash the Mahdi," ond efe ei hun gafodd y " smash," ac nid yn fynych y gwelwyd neb yn haeddu " smash " yn fwy nag ef. Digon tebyg fod John Bull yn cofio y methiant hwnw, methiant Majuba Hill, a methiant "Dr. Jìm" yn y Transvaal, nes y mae ei natur wedi chwerwi, a rhuthra yn awr i dywallt ei ddial- edd ar ben y Soudaniaid am rywbeth wnaed flynyddoedd yn ol mewn rhan arall o'r cyfandir hwnw. Yr oedd llawer o Saeson, mae'n debyg, yn holì os yw pethau ì fyned yn mlaen fel hyn yn Affrica, y dynion duon i gael ein penau ni i lawr, a beth ddaw o anrhydedd Prydain Fawr ? A phan gurwyd yr Eidaliaid yn mrwydr Madowa, pryd y cwympwyd tua deng mil o honynt mewn un dydd, credodd y Saeson fod yr Afìricaniaid yn myned i ysgwyd ymaith iau Ewrop oddiar eu gwarau, ac edrychasant am esgus' dros anfon cadgyrch i'r Soudan mewn gobaith allu daros- twng y bobl dduon, ac ysgubo eu coffadwriaeth oddiar wyneb y ddaear, a chyn iddynt gytuno ar un esgus yr oedd y cadgyrch wedi cychwyn, yr oeddynt yn cychwyn gyda'r fath frys er dal breichiau Itali i fynu yn ei gwendid. Ni buasid yn çaniatau i fyddin o Saeson i fyned i gynorthwyo yr Eidaliaid, ond y mae anfon byddinoedd i a rheithio Abyssinia yn ateb yr un dyben: pan fyddo'r Eidaliàid yn ym- Jadd ar un ochr bydd y Saeson ar yr ochr araìl.