Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y BYD. Rhif ii. TACHWEDD, 1896. Cyf. VI. TRWST RHYFEL SYDD YN Y WLAD. Byddwn nì y Cristionogion (?) yn dwyn ein rhyfeloedd yn mlaen ì gyd yn " enw Duw, rhyddid, a hawliau dyn," ac ymddengys ei fod yn erthygl yn nghredo y byd Cristionogol fod Duw wedi rhoddi iddynt hawl i yspeilio y cenedloedd barbaraidd o'u cylch, mewn trefn iddynt yn gyntaf eu gwneud yn gaethion, yna yn Gristionogion, yna eu íladd, felly hefyd y gwna y Mahometiaid. Byddwn ni yn galw ein hunain yn fìlwyr Cristionogol, ac yn proffesu ein bod yn ymladd yn erbyn teyrnas y diafol, ac yn tywallt gwaed yn sanctaidd. Beth feddyliasid o Iesu a'i ddisgyblion pe yn cerdded y llwybrau a gerddir hedd}^w gan ei ganlynwyr, y rhai a alwant eu hunain yn "arweinwyr y byd Cristionogol?" Gelwir yr hwn a gynllunio arf á'r hon y gellir lladd mwy o bobl mewn llai o amser nag â'r hen arfau yn gymwynaswr nodedig i'w wlad, a mawr fel y canmolir ef gan Saint y Goruchaf. Ond a gredwch chwi mai oddiuchod, oddiwrth Dad y Goleuni y mae y gynau mawr- ion yma yn dyfod, neu a gredwch chwi y daw rhyw ddaioni o'r fath arfau cythreulig ? Syniad ofnadwy yw y bydd cenadön lesu yn cymeryd tiroedd ac arian wedi eu cymeryd oddiar eu perchenogion brodorol i adeiladu Heoedd i addoli Tywysog y Tangnefedd, a llawer o'r arian sydd yn rnyned i gynal y cenadaethau hyn yn cael eu cymeryd oddiar y bobl fyddir yn gaethion, mewn trefn i wneud Cristionogion o honynt. Ai hyn yW efengyleiddio y byd tybed ?