Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

C-WRS Y BYD. Ehip 6. MEHEFIN, 1900. Cyp. X. " TOM PAINE AC IAWNDERAU DYN," (Rights of Man.) Gan y Paech. D. Lewis, A.T.S. YSGEIF II. " ClPDREM AK SEFYLLFA WLADOL A CHYMDEITHASOL PrYDAIN FAWR YN YSTOD Y CHWARTER OLAF o'R DDEUNAWFED GANRIF." ^^„E hyn yw goleuni yn y byd naturiol yw gwybodaeth yn y byd Sdp^ meddyliol. Egwyddor fawr gyntaf y goleuni yw egluro. Mae goleuni dydd yn dangos i'r teithiwr y peryglon sydd ar ei ffordd, ac yn datguddio iddo y llwybr diogel sydd yn arwain i'r ddinas gyfaneddol. Gellir yn ddiogel rodio drwy leoedd yn y dydd y byddai yn berygl bywyd myned drwyddynt yn y nos. Ond heblaw fod y goleuni yn egluro, y mae hefyd yn creu sirioldeb, a gweithgarwch, a llawenydd drwy yr holl greadigaeth nes adfywio a ffrwythloni gwyneb y ddaear. Heb y goleuni ni byddai na bywyd, na ffrwythlondeb, na harddwch, na chysur yn ein byd ni. Pan yr ymddengys yn y bore, y mae holl anian ar un- waith yn adfywio ac yn ymsirioli ; ond pan yr ymguddia, y mae .natur megis yn llwfrhau ac yn gwisgo ei galar-fantell. Y fath amddifadrwydd o sirioldeb a gweithgarwch sydd yn y nos, onide ? Ymollynga yr holl fyd megis i drwmgwsg; teyrnasa distawrwydd dros bob man, ond arhoser i'r wawr dori, ac yna dechreua yr awrelon anadlu bywyd, gwisga gwyneb natur sirioldeb a harddwch, llona y biodeu, cana yr adar, llenwir y goedwig â miwsig, cura coed y maes eu dwylaw gan law7en- ydd, ymbrancia yr ŵyn ar ochr y bryn a gwyneb y ddôl, ac ymddadebra miliwn a mwy o greaduriaid o bob gradd, a dull, a maintioli, a rhywog- aeth. Mae y byd oedd ychydig oriau yn ol megis yn gorwedd ym mro distawrw7ydd a èhysgod angau yn awr yn llawn bywyd a gweittígarwch. Pa beth sydd wedi cynyrchu y fath chw7yldroad ? O, y wawr sydd wedi tori gan wasgar goleuni yn mhob cyfeiriad, yr hwn sydd yn cludo bywyd, ac iechyd, ac ynni yn ei esgyll i bob man. Yr ydym yn dywed- yd eto, " Yr hyn yw y goleuni yn y byd naturiol yw gwybodaeth yn y byd meddyliol." Yr oedd y chwarter olaf o'r ddeunawfed ganrif yn un o'r cyfnodau rhyfeddaf a phwysicaf yn hanes y deyrnas hon a'r byd, a hyny nid yn