Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

C-WRS Y BYD. Bhif 11. TACHWEDD, 1900. Cyf. X. "TOM PAINE AC IAWNDERAU DYN," (Rights of Man). Gan y Parch. D. Lewis, A.T.S., Rhyl. Ysgrif V.—Hen a Newydd Gyfundrefnau Llywodeaethol. ITIS gall dim fod yn fwy gwrthwynebol i'w gilydd na'r egwyddorion _ || ar y rhai y cafodd ben Ö'urf-lywodraethau hynafol y byd eu sylfaenu, ar y naill law, a'r ystad, neu y sefyllfa i'r hon y mae cym- deithasiaeth, gwareiddiad, a thrafnidiaeth, yn alluog i ddwyn dynol- iaeth. Yn ol syniad yr hynafiaid, yr oedd llywodraeth o angenrlieid- rwydd yn golygu cymeryd hawl neu awdurdod, er mwyn sicrhau mvch- afiaeth, gallu milwrol, a chyfoeth ; ond yn ol y syniad newydd, mae llywoâraeth yn golygu " Gallu cynrychioliadol er llesiant a budd cyff- redinol eymdeithas." Mae y cyntaf yn ategu ei hawdurdod trwy gym- eradwyo a chynhal yn mlaen y trefniant milwrol, ymosodol, a rhyfel- gar; ond y mae yr olaf yn ategu ei hawdurdod trwy gymeradwyo egwyddorion heddwch a brawdoliaeth fel y cyfryngau goreu i wella a chyfoethogi yr holl wladwriaeth. Tra y mae y naill yn cefnogi ac yn meithrin rhagfarnau cenhedlaethol, mae y llall, yn meithrin cymdeith- asiaeth gyfí'redinol trwy gefnogi trafnidiaeth gyffredinol. Y gwahaniaeth mawr rhwng y ddw}r gyfundrefn lywodraethol yw, fod y gyntaf yn dref-tadol, neu etifeddol, naill ai yn gyfangwbl, neu yn rhanol, a bod yr olaf yn hollol gynrychioliadol. Mae y gyfundrefn gynrychioliadol yn gwrthod yr egwycldor dref-tadol, neu etifeddol, mewn llywodraeth oherwydd y rhesymau canlynol — (1) Am fod ffurf-lywodraeth felly yn ormes ar ddynolryw, ac yn am- ddifadu y deiliaid o'u hawliau, fel y cyfryw, ac o'u genedigaeth-fraint, fel dynion. (2) Am fod y gyfundrefn dref-tadol yn anghyfaddas ac annigonol i'r amcanion hyny y mae yn ofynol i lywodraeth wladol fod. Nis gellir profi hawl, na dangos ar ba dir y gall ffurf-lywodraeth eti- feddol gael dechreuad; ac nid oes gan neb, yn bresenol, awdurdod na