Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y BYD. Rhif 1. IONAWR, 1901. Cyf. XI. AR HYD AC AR DRAWS. Dymuna ;' Cwrs y Byd " o'i gartref newydd yn 'Berdar, flwyddyn newydd a chanrif newydd dda i'w holl gyfeillion a'i gymydogion. Bu y Cwrs am bedair blynedd yn ddedwydd iawn yn Llandyssyl, He y ganwyd fi, ac o fewn ychydig lathem i'r llanerch lle y mae fy rhieni yn huno, wrth ochr yr hen egwlys lle gosododd yr Esgob Thirlwall ei ddwylaw ar fy mhen ; yn nghanol y cyfeillion fu yn cydwareu a mi, llawer o;r rhai a hunasant—ond y mae eraill yn aros. Yr oedd pawb yn y pentref yn ddigon siriol wrth y Cwrs, ond nid rhyw lawer o gefnogaeth a roddasant iddo; a byddai llawer yn myned o:r tu arall heibio. Ni chafodd erioed achos cwyno ar ei lety ,ar ei feistr, ar y cys'odwyr, na hyd yn nod ar y " gwr <ìu bach," ac ni fuasai yn symud ei íeyt oni bai am amgylchiadau dros y rhai nid oedd genym lywodraeth.' Gadawn i'r Argraffydd siarad drosto'i hun. Gwelir fod Cwrs v Byd yn newid ei gartref. Bu yma bedair blynedd; ac yr oedd ar y telerau mwyaf cyfeillgar a holl fechgyn y Swyddfa. Ni fu cymaint a gair croes erioed rhwng y Golygwyr a neb o honom; ac ni fuasem yn ymadael ag ef oni bai am amgylch- iadau dros y rhai nid óedd genym un reolaeth. Dymunwn iddo oes hir. Bydd iddo roesaw i ddyfad yn oJ i Landyssyl gynted y newidir yr amgylchiadau. J. D. LEWIS, a Bechgyn y Swyrddfa. Gwas y Gomer, Llandyssyl. Mae ganddo yn ei gartref newydd gwmm talentog, " Tarian % Gweithiwr," "Y Celt," a Meuenctyd -Cymru,' a rhed Motor Cai heibio'r drws bob pum' mynud; gobeithio y bydd yn ddedwyd yn . plith ac Y bydd iddo ddÿsgu rhywbeth ganddynt. DerbYniasom yr englyn canlÿhol oddiwrŵ Mr Iago Pierce, Earlestown, yr hwn a gyfansoddwyd medd efe wrth wrando pregetr, wr yn tincian ei arian pan yn pregethu; ond gofala pobl yn aur na, cha pregethwr arian i'w tincian:— Ow'r! anghenwr anghynes—ac arian Yn curio ei fynwes: Ei wrhydri yw rhodres Hen ecco brwnt " tinc ei bres.