Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y BYD. Rhif 2. CHWEFROR, 1901. Cyf. XI. YN OL NEU YN MLAEN ? Tybed fod y cynghorioa neu yr awgrymiadau canlynol, y rhai a roddwyd yn ystod y flwyddyn ddiweddaf i nifer o weinidogion y Gairgan bersonau yn yr eglwysi y rhai a ystyrir yn awdurdodau yn y Cyfarfod Misol ac yn y Cwrdd Chwarter, o fesur dylanwad gwein- idogaeth yr efengyl :— 1. Ai ni fyddai modd i chwi gadw eich Puritaniaeth o'r golwg. Yr ydych drwy eich dull anhyblyg wedi fforffetu pob hawl i obeithio dyfod yn arweinydd byth yn yr ardal hon. Sut yr oeddych yn beiddio cynyg penderfyniady nos o'r blaen yn erbyn landlord haner aelodau yr eglwys, yn erbyn yr Aelod Seneddol a'r Wasg, a chwith- au ddim ond dyn ieuanc. Tybed nad doeth i chwi fyddal troi eich llaw at fasnach yn lle fod yr eglwys yn cael ei dirmygu ? 2. Yr wyf yn synu foddyn o'ch safie chwi yn ymdroi yn mysg swp o bobl anwybodus, os am aros yma cedwch o'r golwg,—ewch o'r ty i'r capel ac o'r capel i'r ty, heb gymysgu dim a'r bobl. Pe byddwn i yn eich lle mi gymerwn ryw swydd fyddai yn talu yn well na'r weinidogaeth. 3. Yr ydych yn preçethu yn rhy eglur o lawer, a fydd y bobl byth yn credu fod mawredd mewn eglurder. Siaradwch a hwynt am yr arfaethau a'r tragwyddoldebau, ewch dros restr yr hen deulu o Noah, Jeroboam a Herod, peidiwch sathru mor dost ar draed rhai o'r aelodau mwyaf blaenllaw yma, fynwn i ddim eioh colli o'r lle, ond y mae yma chwyrnu garw y tu cefn Ì chwi. 4. Dywedwch chwi faint a fynoch am Iesu ac am Paul, ond prin y mae yn ddoeth i weinidog sydd yn byw ar y bobl, dynu darlun o'r rhai sydd yn gomedd byw fel Iesu, chwi a wyddoch pwy sydd yn cyfranu fwyaf yn yr egiwys. Nid gwaith hawdd yw cael eich cyf- log at e» gilydd yn awr, os ewch chwi yn mlaen yr un fath eto bydd raid i mi roddi fy swydd i fyny. 5. Yr ydych chi yn gwr boneddig rhagorol yn slaig da, ond ma chi ddim yn barnu bod yn well peidio son am tan wrth bobl barchus. Madechreu pregeth chi yn daiawn,agoriadyn sweet, a'r esponiad yn ddwfn, ondy mae son am tan fel yna yn bad speck. Ma chi yn deud y gwir ond dim da deud pob gwir. Bydd digon o bybyr a halen geno c hi mewn un pregeth ar gyfer deg o bregethau.