Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y BYD. CYF. XI. EBRILL, 1901. Rhif 4. Tom Paine ac Iawnderau Dyn. Ysgrif IX.: "Gwelliantau GwladwriaetholAnhebgorol." Gàn y Parch. D. Lewis, A.T.S., Rhyl. Gweddus fyddai i ni yn bresenol gymeryd cipdrem ar y gwel iantau cymdeithasol a gwladwriaethol y dadleuai Tom Paine mor wresog, goleuedig, a galluog drostynt ganrif yn oi. Teg f'yddai i ni hefyd gadw mewn cof y ffaith bwy&ig fod yr hen ddiwygiwr tanilyd hwn wedi ei fendithio yn helaeth, nid yn unig â gallu i ganfod gwendidau gwahanol ffurfiywodraethau y byd, ond hefyd ei fod wedi cael ei freintio a gallu nodedig i tíynyg gweiüantau ardderchog ar gyfer y cyfryw wendidau. Nid yn unig meddai ar y gallu i wneud adwyau yn y mur, ond hefyd meddai ar y gaüu prinach, ac am hyny gwerth- Liwrocach, o gyfanu yr adwyau hyny. Nid yn unig deallai natur ah'echyc1 y claf, ond hefyd gwyddai beth oedd y feddyginiaeth fwyaf briodoJ i wrthweithio y clefyd. Nld yn unig yr oedd yn ddinystrydd, ond hefyd yr oedd yn adeiladydd yn ystyr oreu y gair. Yn aml, gall ynfytyn eiddil o ddyn dynu lawr, ond rhaid cael dyn o athrylith gref i gynllunio, a chodi adeilad gorwych ac ysblenydd allan o'r tryblith afíuniaidd. Yr oedd y ddau fath yma o allu wedi eu huno mcwn modd nodedig yn Tom Paine, a'r cyfuniad gwerthfawr hwn a'i gwnaeth ef yn ddiwygiwr gwleidyddoi mor lygadgraff a chyr- haedd-beii. Yn awr, sylwer yn fanwl ar y gyfres ganlynol o welliantau pwysig a gynygid ganddo i ystyriaeth gwahanol lywodraethwyr Ewrop :— (Ì) Dyddimiad dwy íìliwn (2,000,000) o bunoedd yn nhreth y tlodion. Y ffordd a gynygia i wneud hyn yw drwy sefydlu treth gyfiawn i'r holl deyrnas—y cyfoethog a'r tlawd fel eu gilydd, yn ol mesureu meddianau. Trethu tirfeddianwyr mawrion y wiad yn gyfartal i'w buddianau. Trethu y tiroedd yn lle y bwydydd. (2) Addysgu miliwn a deg ar hugain o fìloedd o blant tlodion ar gos y wlad—hyny yw, addysg rydd a didal. Yr ydym ni