Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y BYD. CYF. XII. MEHEFIN, 1901. Rhif 6. -^Y BWRIAID A'R PRYDEINIAID. $+- GWREIDDYN A FFRWYTH Y GYNEN. Mamon yn Llygru y Wasg, a'r Wasg yn Dallu y Wlad. TIFYBIA rhai inai amcan mawr Judas yn bradychu ei Feistr ydoedd JL creu argyfwng (crisisj, trwy ddwyn y pleidiau i wrthdarawiad a'u gilydd, o dan y dybiaeth y buasai i'r Argiwydd Tesu ddefn- yddio ei aliu gwyrthiol, nid yn unig i waredu ei hun o ddwylaw ei elynion, ond hefyd i'w dymchwelyd, a sefydlu ei Deyrnas mewn buddugoliaeth, ac y cawsai Judas faddeuant ganddo, drwy i'f dyben gyfreithloni y moddion a ddefnyddiodd, ac y cawsai ei ddyrchafu i swydd o fri ac elw yn y liywodraeth—ei fod wedi blino ar dlodi a dinodedd, ac awyddai am y crisis. Nis gwyddom ai gwir hyn, ond gwyddom ei fod yn siomedig iawn pan welodd iddynt gondemnio yr Iesu. Nid oedd pethau weüi troi allan fel y dysgwyliai. Fodd bynag a.n hyn, gwTyddom gyda phob sicrwydd i Rhodes ddefnyddio pob moddion posibl i greu crisis rhwng Prydain a'r Transvaal—ni arbedodd draul, trafferth, na dyfais i ddwyn hyn oddiamgylch, fel y bydd i ni brofì yn yr ysgrif hon. Pan fethodd Rhodes gael y llaw uchaf dros y Rand, drwy afler- wch ym^yrch wyllt Jameson, soniai am arfer " moddion cyfansodd- iadçl ' i gyrhaeddei amcanion, a gwyddai yn iawn beth a fwriadai wneuthur dwyn drosodd fyddinoeddarfog Prydain at ei wasanaeth, ar draul y trethdalwyr Prydeinig, er cael rheolaeth y Transvaal i'w ddwylaw ef ac ychydig o'i gydgyfalafwyr. Dyna ei uchelgais. Er dwyn hyn oddiamgylch, yr oedd yn bwysig iddo gymhwyso y dylan- wadau priodol at feddwl Llywodraeth a phobl Prydain. Er gwneud hyn, gwyddai nad oedd gwell ac effeithiolach offeryn na'r wasg. Aeth ati o ddifrif. Sicrhaodd, gyda'r Meistri Eckstein a Barnato, yr hawl flaenaf yn y " Cape Argus," papyr hwyrol Tref y Penrhjm, Eangodd cwmni'r Argùs faes eu gweithrediadau, nes meddianu y " Johannesburg Star,' " Bulawayo Chronicle,'' " Rhodesia Herald," " Affrica Review," a'r " Cape Times " hefyd a syrthiodd i'w dwylaw, —y papyr mwyaf dylanwadol yn Neheubarth Affrica. Cawsant feddiant hetyd o'r " Diamond Field's Advertiser," Kimberley.