Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y'BYD. Rhif 8. AWST, 1902. Çyf. XII. DYLANWAD PURITANIAETH AR WLEIDYDD- iaeth a Chrefydd Prydain Fawra'r Unol Daleithau. Gan y Parch. D. Lewis, A.T.S., RhyL. YsgrÌf I.— Arweiniad i MeWN< PURITAN a Phuritaniaeth ! MeWn gwirionedd, ddarllenydd hynaws, onid oes yn yr enwau hyn ryw sWyn bytholrwydd— rhyw gyfaredd annisgrifiadWy i bob dyn sydd yn teimlo unrhyw ddydd» ordeb yn hanes crefydd a gwleidiadaeth Prydain ac America ? Pedwar caẃ mlynedd vn ol! Y fath ysbaid hirfaith ! " À chewri oedd ary ddaear y dyddiau hyny." Dyna yr adeg yr oedd byd ad eglwys yn dechreu dadebru o'u trwmgwsg- gwleidyddol ac ysbrydol. Yr oedd yna ragre Jegwyr glewion ac effro wedi ymddang'os cyn hyny yn ceisio cynhyrfu y bobl i ymysgwyd o'r llwch, ac i ymddatod oddi- wrth rwymau eu gwddf. Ond nid oeddynt ond megyS "llefunyn llefain vn yr anialwch." Wrth swn yr udgorn arian codai ambell un ei ben i wrando yr hyfrydlais, ond buan y gorweddai drachefn, gan fwmian trwy ei hunell—" Ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig wasgu dwylaw i gysgu." Dynion ardderchog oedd y rhagredegwyr hyn. Trwy eu hunanaberth, eu gwladgarwch, eu sel- danllyd dros iawnderau eu cyd-ddynion, eu ffyddlondeb diwyro i'r gwirionedd, eu hysbryd diwygiadol, yn nghyd a'u hymegnion diball er sicrhau rhyddid cymdeithasol, gwleidyddol, a chrefyddol, llwyddasant i gerfio eu henwau yn y graig dros byth â phia o haiarn ac â phlwm. Dynion felly oedd John WycklifF, Syr John Oldcastle, John Hus^ o.Savonarola,^ a lluaws ereill, " y rhai nid oedd y byd yn deilwng o honynt." Cyf- lawnodd y gwyr enwog h)m wrhydri yn eu dydd ; ac am eu "llafurus gariad " gwelodd y byd yn dda eu gwawdio, eu fflangellu, eu carcharu, eu lladd, a'u llosgi. Dyna fel y mae y byd wedi arfer ymddwyn at ei gymwynaswyr goreu. Ei hanes o'r dechreuad y\\ lladd y proffwydi a llabyddio y rhai a anfonir alo. Ac hyd yn nod yn yr oes hon y mae yr hen anian hono mor fyw ag erioed.. Gellir dywedyd am dano heddyw—" Ni newidiodd yr Ethopiad ei groen, na'r llewpard ei frychni." Trwy drugaredd, y mae ei ewinedd erbyn hyn wedi eu tori,