Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

jCWRS y BYD. & Rhif 2. CHWEFROR, 1903. Cyf. XIII. Dylanwad Puritaniaeth ar Wleidyddiaeth a Chrefydd Prydain Fawr a'r Unol Dalaethau. Ysgrif V.— Yr Egwyddorion Puritanaidd. Gan y Parch. D. LEWIS, A.T.S., Rhyl. AIR egwyddor fawr Puritaniâeth ydynt y rhai canlynol : /. Hawl dyn ifarnn drosto ei hun mewti pethau crefydd. 2. Rhyddid cydwybod, neu hawl dyn ì weithredu yn ol eifarn. j. Gair Duwyw unig safon a rheol anffaeledigffydd acymarweddiad Dyma y tair prif golofn ar y rhai y gorphwysai y symudiad mawr Puritanaidd, ac ar y rhai hefyd y gorphwys yr adeilad Anghydffurfiol yn y deyrnas hon a'r Unol Dalaethau. Ac wrth ddywed mai y rhai'n yw prif egwyddorion Puritaniaeth, yr ydym, ar yr un pryd, yn dywed- yd mai hwy hefyd ydyw prif egwyddorion y grefydd Gristionogol. Yn ol dysgeidiaeth y Testament Newydd, y mae pob dyn yn holl- ol at ei ryddid i farnu drosto ei hun mewn perthynas i bethau crefydd, heb fod yn gyfrifol i neb pwy bynag am ei olygiadau duwinyddol, ond i Dduw yn unig. Mwy na hyny, y mae yn meddu perífaith hawl i weithredu yn ol ei farn, cyhyd ag yr ymgadwo rhag gwneuthur niwed i bersonau ac amgylchiadau ei gyd ddynion. Duw yn unig sydd Arglwydd ar gydwybodau dynion a'i Air Ef yn unig sydd anfFaeledig reol fiydd ac ymddygiad. Gorchymynir i ni yn bendant i chwilio yr ysgrythyrau, yr hyn a brawf, nid yn unig mai y Beibl yw y rheol anfFaeledig mewn crefydd, ond hefyd fod genym hawl, ac mai ein dyledswydd yw, barnu drosom ein hunain yn ei wyneb, ac i weithredu yn ol ein barn. Heb hyny, ni atebai chwilio un dyben i ni. Mewn trefn i ddeall Gair Duw, wrth gwrs, dylem dderbyn a defynddio pob cymhorth dynol, a chadw meddwl agored i dderbyn goleuni newydd o ba gyfeiriad bynag y delo ond ar yr un pryd dylem fod yn ofalus i beidio " galw neb ar y dd"earyn dad nacyn athraw i ni; canys un tad sydd ì ni, ac einyw un Hathraw ni, sef Crist.,f Credai yr hen ddiwygwyr Protestanaidd fod Eglwys Rhufain yn