Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

^i CWRS Y BYD. Rhif 4. EBRILL, 1903. Cyf. XIII. Dyläriwad Puritaniaeth ar Wleidyddiaëth a Chrefydd Prydain Fawr ar Unol Daleithau. Gan Y Parch D. Lewis, A.T.S., Rhyl» Ysgrif VII.—Egwyddorion a Gwaith ÿ PüritaniaíDi II.— Tmdrechodd y Puritaniaid yn galed. i sicrhau i bob dyn berffaith fyâdid personol, i gredu a barnu drosto ei hun meicn perthynas i bethau crefydd. "YTID oedd yr hen Buritaniaid i gyd fel y dywedwyd yn barod Wedi ±\ llwyr ddysgu y wers bwysig hon. Credent yn gadarn, a pharod oeddynt i ddioddef yri llawen dros yr hyn a gredid ganddynt, nad oedd gan y llywodraeth wladol unrhyw hawl foesol i orfodi y deiliaid i gydymffurfio a chredo ac a gwasanaeth, ac a seremoniau defòdol ,yr EglWys Sefydledig, oherwydd fod gair Duw yn dysgu yn egluf a phen- dant nad oedd yn yr eglwys gyntefig esgobion ac offeiriaid yn yr ystyf y deallid y termau hyn ar ÿ pryd. Ond pan y dargànfyddasant fod yr Eglwysi Cristionogol cyntaf, wedi cael eu sefydlu ar egwyddorion gwerinol, a bod gan leygwyr ran helaeth yn eu llywodraethiad, ceisient orfodi pawb i gydymffurfio a'r drefn Bresbyteraidd. \}n amgylchiad pwysig a'u gyrodd i'r tir hwn ydoedd gwaith yr esgobion gwladol, yn mhob dull a modd, yn gwneud eu goreu er ceisio ategu Siarl I. yn ei gyflawniadau gormesol ac anghyfiawn. Credai nifer luosog o'r hen Buritaniaid, fel dynion ymarferol, gan fod plaid y bren- hin yn unfrydol yn eu credo a'u ffurf wasanaeth grefyddol, ei bod ;yn ofynol iddynt hwythau i synied yr un peth yn y pynciau hyn. Ofnent y buasai gwahaniaeth barn mewn perthynas i bethau crefydd arwain i ymraniadau yn eu plith eu hunain, a thrwy hyny, eu gwanychu fel plaid. Ni ddychymygodd calon yr hen Dadau Puritaniaidd am fynud ei bod yn bosibl 1 bobl a goleddent syniadau trâ gwahanol i'w gilydd mewn perthynas i grefydd. i ymuno fel un gwr, yn eu hymdrechion yn erbyn gormes ac anghyfiawnder. Ymryddhaodd y mwyafrif o honynt ýn fuan a'r synìad hwn. Cydweithiodd amryw bethau i sicrhau hyny— megis yr erledigaethaü creulawn fu árnynt, trais ac unbenaeth'yr orsedd, culni ac ysbryd erlidgar yr offeiriaid uchel eglwysig, ac uwch- law pob peth, meddwl mawr ac éhangfrydig 01iver Cromwellj-^-ac arweiniwyd hwy fel plaid i goleddu syniadiau cywirach ac ehangàeh