Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

^J Y TRAETHODYDD. YR OES HON. Syrthiodd coelbren ein bywyd ni, yn yr oes hon, ar y eyfnod mwyaf pwysig, ac ystyried pobpeth efallai, o ddyddiau amser. Dygwyd y byd, drwy y diwyllio a'r perfíeithio fu ar y celfyddydau yn ystod y deng-mlynedd-ar- hugain diweddaf, i gyflwr ac agwedd hollol newydd a gwahanol i'r hyn oedd o'r blaen. Erioed ni roddodd y natur ddynol y fath brofion ymar- ferol o'i mawredd a'i hurddas ag a roddodd yn yr ystod hwn o amser. Ni ddaethai i galon dyn erioed cyn hyny, bod y fath gyflawnder o ddar- bodion cyfleusderau bywyd wedi eu trysori ar ei gyfer yn adnoddau naturiaeth. Dygodd ysbryd anturiaethus ac athrylith gelfyddgar yr oes bresennol i'r golwg lawer o ddirgeledigaethau anadnabyddus i'r oesau blaen- orol. Cafwyd amlygiadau newyddion o fáwredd a doethineb yr Hwn sydd ardderchog yn ei waith yn nghyfansoddiad elfenau anian, ac yn nghyfan- soddiad meddwl y creadur a osododd efe ar weithredoedd ei ddwylaw. Ymddengys bod y dyn yn awr wedi gosod ei feddylfryd yn benderfynol ar ëangu cylch ei lywodraeth a'i ddylanwad ar y byd. Ni foddlonir ef ar arglwyddiaethu ar " ddefaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd, adar yr awyr, a physgod y môr, pob natur gwylltfilod," i'w dàl a'u dofì; ond myn ddarostwng yr elfenau oll hefyd dan wriogaeth a theyrnged iddo. Y mae yr oes yn mawredd ei darganfyddiadau, llwyddiant ei dyfeisiau, a ffrwyth ei hymchwiliadau, yn syndod iddi ei hun. Ond y mae ysbryd, athrylith, a nodwedd oes, yn cael eu rhaglunio gan amgylchiadau a dygwyddiadau yr oes, yn hytrach yr oesau, blaenorol iddi. Yn hyn eto "y mae y gair yn wir, mai arall yw yr hwn sydd yn hau, ac arall yw yr hwn sydd yn medi—eraill a lafuriasant, a ninnau ydym yn myned i mewn i'w llafur hwynt." Cynnyrch yr hadau a hauodd Bacon yn neillduol, yn nyddiau Elizabeth a Iago y Cyntaf, ydyw y cynauaf mawr o gelfyddydau flrwythlawn yr ydym ni yn ei fedi ac yn ei gasglu y dydd- iau hyn. Rhoddodd y meddwl galluog hwnw dro a chyfnewidiad trwyadl ar amgylchiadau a helyntion y byd. Tynodd i lawr hyd y sylfaen hen deml yr athroniaeth Roegaidd, yr hon a gysegrasid gan barchedigaeth oesau, a lle y buasai doethion a dysgedigion cenedlaethau lawer yn cyf- lawni eu defosiynau. Cynsail athroniaeth y Platoniaid a'r Stöiciaid yd- oedd,—bod dedwyddwch a gogoniant uchaf dyn yn gynnwysedig mewn ymdebygoliad i'r duwiau, y rhai a ddesgrifient yn hollol ddiofal a dideimlad o dda a drwg tymmorol y byd hwn. Er bod ganddynt law yn eu danfon- iad, a llywodraeth drostynt, nid oeddynt yn meddu yr ystyriaeth na'r Ionawr, 1849.] B