Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. AWDLAU A PHRYDDESTAU HEN A DIWEDDAR. Nid oes dadl nad ydyw barddoniaeth yn sefyll yn uchel ac yn derbyn sylw neillduol yraysg y rhan íwyaf o genedloedd y ddaear ag sydd wedi cyrhaedd y gradd lleiaf o wareidd-dra. Ac rnae yn anhawdd gwybod beth sydd i'w ddeall wrth yr hyn a ddywedir yn y Trioedd canlynol,—" Am dri achos y gelwir y Beirdd yn Feirdd wrth fraint a defod Beirdd Ynys Brydain. Yn gyntaf, am mai yn Ynys Brydain y cafwyd barddoniaeth gyntaf; yn ail, am na chafodd un wlad arall erioed ddeall cyfiawn ar farddoniaeth; yn drydydd, am nas gellir cynnal barddoniaeth, eithr yn mraint deíodau a Uafar gorsedd Beirdd YnysBrydain." Mae ynddo rywbeth tebyg i'r hyn a adroddir am drigolion un o ynysoedd y môr deheuol pan ddarganfydd- wyd eu gwlad gyntaf gan rai o forwyr Lloegr, sef eu bod yn meddwl mai hwy oedd yr unig ddynion mewn bod, a'u gwlad hwy yr unig wlad, a bod y gweddill o'r byd i gyd yn ddwfr. Nid peth yn perthyn i un wlad yn neillduol ydyw barddoniaeth, ond mae yn perthyn i bob gwlad ac i bob cenedl o dan haul. Ac mae yn debyg fod barddoniaeth y Cymry yn rhagori ar bob cynnyrch llênyddol arall sydd ganddynt yn eu hiaith; ond nid ydyw yn rhagori ar bob bardd- oniaeth arall yn y bya*; a byddai yn ífolineb i neb ddywedyd hyny. Mae yr iaith Gymraeg, yr un modd â'r rhan fwyaf o'r hen ieithoedd boreuol y byd, yn iaith farddonol ynddi ei hun, ac y mae Cymru yn wlad ag sydd yn gyf- lawn o wrthddrycb.au naturiol, o duedd i gynhyrfu a meithrin meddyl- ddrychau barddonol yn y meddwl dynol, yr un modd ag y dywedir am wlad Oròeg gynt. Ond na ddyweder o herwydd hyn mai barddoniaeth Cymru ydyw yr unig farddoniaeth mewn bod, a beirdd Cymru yr unig feirdd yn y byd. " Ymhob gwlad y megir glew," sydd hen ddiareb gwerth ei chofio. Y cyflwr yn yr hwn y canfyddir cenedl pan yn dyfod ymlaen o ystâd farbaraidd i un o ddiwylliant a gradd uchel o wybodaeth yn y gwyddorau a'r celfyddydau, ydyw y cyflwr mwyaf fîafriol i gynnyrchu barddoniaeth o'r radd uchaf. A phan gyrhaeddo cenedl radd uchel o enwogrwydd yn y celf- yddydau, y mae barddoniaeth mewn llai o fri yn ei mysg. Golwg megys trwy niwl ar wrthddrychau sydd yn gweddu oreu i'r bardd; ac y mae Uwyd oleuni y boreu yn fwy cydweddol â'r tymher barddonol na goleuni dys- glaer y canolddydd. Gyda y golygiad yma yr oedd oes Homer a Hesiod yn fwy ffafriol i farddoniaeth ymysg y Groegiaid nag oes Aristotle a De« 1869.—4, 2 c