Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TBAETHODYDD. Y GENADAETH GRISTIONOGOL. Dyben y Grëadigaeth ydyw dadgan gogoniant Duw; oblegid nis gallasai meddwl a bwriad anfeidrol derfynu mewn dim ond gwrthddrych an- feidrol. Mae y Prynedigaeth yn dadgan y gogoniant hwnw gyda llawer mwy o effaith, ac mewn llawer mwy o gyflawnder, ac yn dadguddio pri- odoleddau Dwyfol mewn gweithrediad, pa rai nas gellid eu gwybod drwy Grëadigaeth a'i deddfau. Y mae Crëadigaeth yn dadgan y gogoniant hwnw drwy ei gwrth- ddrychau, gweithrediadau, a deddfau. Pa fodd y dadgenir ef drwy Brynedigaeth ? A pha fodd yr amlygir y ffaith o Brynedigaeth i'r hîl, i ba un y perthyn ? Mae y pum' synwyr yn gwasanaethu yn rhywfodd er crëu syniad yn y meddwl o wrthddrychau Crëad; eithr pa fodd y gellir cyrhaedd gwybodaeth o natur ac ammodau Prynedigaeth ? Dyben yr ychydig sylwadau canlynol ydyw ceisio chwilio yn fyr" i'r holiad cyntaf. Y mae prif grefyddau y byd, gwir a gau, yn meddu eu cenadau a'u cenadaethau. Y mae cyhoeddusrwydd yn un o elfenau poblogrwydd, a rhyw ffurfreolau er cyhoeddi yn anghenrheidiol er cyrhaedd cyhoeddus- rwydd. Os ydyw Cristionogaeth i ddyfod yn boblogaidd, rhaid iddi gael ei chyhoeddi. A ddadguddiwyd rhyw gynllun Dwyfol er ei chyhoeddi i'r hîl ? Os felly, pa gynllun ? Duw ydyw Awdwr, Dyben, a Ffynnonell dedwyddwch dyn. Efe ydyw Awdwr galluoedd a deddfau ei enaid a'i gorff. Dyn sydd o hono Ef, a thrwyddo Ef, a dylai fod erddo Ef. Er nas gall dyn, hwyrach, ddirnad yn drwyadl natur, deddfau, na therfyngylch ei berthynas â gwrthdärychau crëadigol, nac â'u Crëawdwr, eto gall ddirnad a theimlo fod perthynas. Nid ydyw hyny ond dirnadaeth a theimlad o ffaith. Er nas gall ddirnad paham a pha fodd y ffaith hono, eto teimla a gŵyr ei bod yn ffynnonell dyleds^wddau. Ac y mae hyny yn ddigon i'w wneyd yn grëadur cyfrifol a chrefyddol. Pan wrthryfelodd dyn yn erbyn ei Grëwr, a phan gyfododd gelyniaeth rhyngddynt, diflanodd eu cymundeb, a newidiodd natur y berthynas rhyngddynt. Collodd dyn ei wybodaeth pa fodd i wasanaethu ei Grëwr odditan y berthynas newydd, eithr parhäodd y teimlad cynnwynol fod ei wasanaethu yn ddyleds^ydd. Mewn crefydd, teimlad heb wybodaeth, sydd ddall, a gwybodaeth heb deimlad sydd ddieffaith a diysgogiad. Rhaid i'r cynneddfau dirnadol yn gystal a r rhai ysgogiadol—y galluoedd 1862.—3, s