Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. HUGH MILLER. [My Schools and Schoolmasters ; or, the Story of my Education. By Hugh Miller, Author of "The Old Red Sandstone" "Footprints of the Creator" etc, etc. Edinburgh: Adam and Charles Black. Labour and Triumph.—The Life and Times of Hugh Miller. By Thomas N. Brottn. Loudon and Glasgow : Richard Grifìîn and Company.] EETHYGL OLAF. Dosbarth o foneddigion lled anhywaith ac anhawdd eu trin yn fynych yw yr adolygwyr neu y llênfeirniaid—critics, chwedl ein cymydogion. Cafodd Byron gryn draíferth yn nechre ei dymmor gyda'r adolygwyr Ysgotaidd, y rhai a'i triniasant yn lled chwerw; a lachiodd yntau hwy- thau yn ei dro yn bur enbyd. Yr ydym yn cofio gweled un arall hefyd o'r beirdd Seisonig yn hwylio ei lyfryn allan gydag anerchiad gwylaidd a chariadus at ei feirniaid, gan ymbil am eu hynawsedd; ac o dan gochl gostyngeiddrwydd digyffelyb, yn rhoddi iddynt aml ergyd llawchwith, gan dafìu atynt ambell sylw o'r mwyaf pigoglym, a'u lledgyhuddo o an- onestrwydd, ac o dderbyn llwgrwobrwyon mewn rhai amgylchiadau am farn ffafriol, a llawer o bethau cyffelyb. Tybygem iddo ddianc y waith hono o leiaf, canys yr oedd ei epistol yn ddigon i ddirymu bi'eichiau unrhyw foneddwr o'r urdd criticyddol. Y mae yr un awdwr mewn lle arall yn siarad, modd bynag, heb na drych na dammeg, gan eu dirmygu â dirmyg cyfiawn,— " Rake, if you please, the kennel of your brains, And pour forth all the loaded head contaüis ; I shall not suffer by it, I am sure ; Nay, my poetic plants will better thrive ; Exalt their heads and smile—be all alive ; As mud is very excellent manure." Fel y sylwyd yn ein rhifyn diweddaf, ac fel y gŵyr ein holl ddar- llenwyr yn dd'iau erbyn hyn, y mae beirniadaeth y Traethodydd uwch- law ymostwng i'r iselwaith a nodwyd; ond yn hytrach y mae bob amser yn ceisio bod yn onest heb fod yn erwin, ac yn foneddigaidd a chanmol- iaethol heb fod yn wenieithus. Cafodd Hugh Miller deimlo peth o awchlymder arfau y boneddigion 1863.—4. 3 c