Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. ADGYFODIAD IESU GRIST. Y mae yn ffaith ryfedd ac anwadadwy raai y dyn goi'eu a'r llyír goreu sydd wedi cyfarfod â rawyaf o wrthwynebiadau ac erlidigaethau. Y mae gwir ragoriaeth mor bell o sicrhàu llwyddiant bydol a pharch a gwarogaeth dynion y mae eu rhan yn y bywyd hwn, fel y dysgir ni i'r gwrthwyneb fod casineb a gelyniaeth y byd tuag atom yn nôd a phrawf o deilyngdod a rhinwedd. Y mae gelynion dyn o ran rhifedi a grym eu gelyniaeth tuag ato, yii dwyn rhyw gyfartaledd i'r graddau o ddaioni sydd ynddo ac a arddangosir yn ei gymeriad. Ehagoriaethau y Bibl ar bob llyfr arall sydd wedi pe.ri i ddynion ymddwyn yn fwy anghyfiawn tuag atô na thuag at unrhyw lyfr a ymddangosodd yn y byd erioed. Hònir gan rai beirniaid fwy o ryddid wrth ddeongli yr Ysgrythyr nag wrth wneuthur ymchwiliadau i hanesiaeth gyffredin. Ni ddylid caniatâu hyn iddynt, fel y dywedodd Lessing yn briodol a rhesymol iawn, " Os ydy w Livius, Dionysius, Polybius, a Tacitus, yn cael eu trin mor dèg a boneddigaidd genym, fel nad ydyni yn eu dirdynu am bob sillaf, paham gan hyny na ymddygir yn yr un modd tuag at Matthew, Marc, Luc, a Ioan." Ond er cymaint o annhegwch a ddangosir gan ddynion wrth drin yr hanes ysgrythyrol, y mae eu gelyniaeth yn Uawer yn fwy tuag at y Person Dwyfol, gwrthddrych yr hanes. Nid rhyfedd, o ganlyniad, fod yr athrawiaeth am ddwyfoldeb person y Gwaredwr wedi ac yn bod yn nôd neillduol saethau gelynion Gristionogaeth. Nid yw hyn yn rhyfedd pan ystyriom fod yn ei berson ddadguddiad helaethach o Dduw nag a geir yn un o'i weithredoedd nerthol. Y wyrth ryfeddaf ydyw person y Duwddyn. Gan ei fod yn bersoa goruwchnaturiol, yr oedd yn naturiol iddo gyflawni gweithred- oedd goruwchnaturiol. Gwyrth fawr ei hanes ydyw ei adgyfodiad o'r bedd foreu y trydydd dydd. Dyma arwydd y prophwyd Jonas: " Canys fel y bu Jonas dridiau a thair nos yn mol y morfil, felly y bydd Mab y dyn dridiau a thair nos yn nghalon y ddaear;" Mat. xii. 40. Nid yw yn rhyfedd, o ganlyniad, yn nesaf at yr athrawiaeth am berson Crist, yr ymosodir ar ei adgyfodiad yn fwy ffyrnig a phenderfynol nag ar un