Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. MEDDYLFRYD CRIST IESU. (beirniadaetii ysgrythyrol.) PHILIPPIAID II. 5-8. "Canys bydded ynoch y meddwl yma, yr hwn oedd hefyd yn tfghrist Iesn : Yr hwn, ac efe yn fTurf Duw, ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch â Duw; Bithr efe a'i dibrisiodd ei hun, gan gymoryd arno agwedd gwas, ac a wnaed mewn cyífelybiaeth dynion : A'i gael mewn dull fol dyn, efo a'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angeu, ie, angeu y groes." Gwelir fod y gair cyntaf yn y paragraph yn ei gysylltu à'r ymadrodd- ioü blaenorol. Appeliad difrifol, ac ar yr un pryd serchog, yw y pedair adnod cyntaf o'r bennod, at y Cristionogion yn Philippi, i gadw undeb a heddwch yr eglwys. Yr oedd y berthynas rhwng yr Apostol â'r Eglwys yn Philippi yn un neillduol. Ymwelodd|yr Apostol â Philippi am y tro cyntaf yn neu tua y fl. 52, yn ystod ei ail daith genhadol. Ei gym- deithion ar y daith hon oeddynt Silas, yr hwn a ddaethai gydag ef o Jerusalem; Timotheus, yr hwn a gymerasent gyda hwynt yn Lystra; a kuc, yr hwn a ymunasai â hwynt yn Troas. Gorweddai y porthladd hwn yn union gyferbyn â ghànau Ewrop. Tra yma, ymddangosodd "gŵr o Macedonia " i'r Apostol mewn gweledigaeth nos, gan ddywedyd, " Fyreà drosodd i Macedonia, a chymhorth ni " (Act. xvi. 9). Ufuddhä- odd yn y fau i'r awgrymiad, gan 'gredu fod " Ysbryd yr Iesu" yn ei aníon i'r maes newydd hwn o lafur. Hwyliodd yn ddioed o Troas, gyda'r gwynt a'r llanw o'i du, a gwnaed y fordaith mown amser anar- ieiol o íỳr. Glàniodd yn Neapolis, ond ni arosodd yno; prysurodd ytalaen i'w gcnhadaeth. Dyma y tro cyntaf, dybygid, i'r Apostol Paul r°tldi ei draed ar ddaear Ewrop. Ond yr oedd cadwen o fynyddoedd ÍQyngddo â maes ci lafur; ncu, yn fwy'cywir, llahi o fvnvdd-dir, a 1874.—4. » c * *