Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. GEORGE MÜLLER. A Narrative of some of the LorcTs Dealings mth George Müller. Written by Himself. First Part, Seventli Edition; Second Part, Sixth Edition; Third Part, Fifth Edition. 1869. A Narratŵe of some of the Lorcl's Dealings with George Müller. Written by Himself. Fourth Part, Third Edition. 1873. A Narratite of some of the Lord's Dealings with George Muller. Written by Himself. Fifth Part. 1874. Brief Narrative of Facts relatire tó the New Orphan Houses (for 2,050), on Ashley Down, Bristol, ancl other Objects of the Scriptural Rnowledge Instìtution for lìome ancl Abroad. By George Müller. 1875.—London : Nisbet & Co. Bristol: The Bible and Tract Warehouse, Park Street. Nid oes ddyn yn fyw heddyw yn Mhrydain, os yn y byd, ag y mae iddo hanes rnwy pwysig a mwy llawn o ddyddordeb ac addysg, os yn wir yn gymaint felly, â Mr. George Müller o Eristol. Y raae genym gyflawn- der o olygiadau cywir ar athrawiaethau mawrion y gwirionedd. Fe lynir wrth y golygiadau hyny gyda dirfawr barch: íe edrychir arnynt fel pethau o awdurdod diammheuol; fel pethau sydd wedi eu gwneyd yn gysegredig gan ffyddlondeb rhai nad oedd y byd yn deilwng o honynt a seliasant eu tystiolaeth i'w dilysrwydd â'u gwaed; ac fel pethau y mae teimladau dyfnaf a phuraf y ddynoliaeth wedi bod trwy yr oesoedd yn ymgrynhoi o'u hamgylch. Pe meddyliai rhywun am eu hammheu, edrychem amo gyda llawer o ddifrifwch; a phe rhyfygai neb eu gwadu, ni a fyddem yn barod, wrth y miliynau, i'w gondemnio fel heretic. Ond rhyfedd mor ddifywyd yn fynych iawn ydyw eia huniongrededd. Am ddim sydd a fyno à'r pethau hyny yn ngwreiddiau ein natur sydd yn penderfynu ein gweithredoedd ac yn ein gwneuthur yr hyn ydym, ni fuasai ond o ychydig iawn o golled, mewn lliaws o amgylchiau, fel pe na fuosai y peth hwnw sydd yn hofran yn y meddwl fel uniongrededd, yn hanfodi o gwbl. Ac yn wyneb yr ymfYrost uchel a wneir o beth mor ddisylwedd, a chan ddynion ag y mae eu bywyd yn wrthdystiad mor bendant yn erbyn eu hopiniynau, nid rhyfedd fod rhai sydd yn cael eu dwyn o ddifrif wyneb yn wyneb a r anhawsderau, yn 1876.—3. s