Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

45 Y TRAETHODYDD. YR AELWYD, YR YSGOL SABBOTHOL, Y PULPUD, A'R ARGRAFFWASG. Y mae safle gymhariaethol cenedl y Cymry mewn crefydd a moesoldeb eisoes yn uchel. Ychydig yw nifer y cenhedloedd a ddaliant gymhar- iaeth à hi yn hyn. Pe rhenid cenhedloedd y ddaear yn ddosbarthiadau, yn ol graddau eu crefyddolder a'u moesoldeb, byddai cenedl y Cymry yn sicr yn y dosbarth blaenaf, os nad yn flaenaf yn y dosbarth hwnw. Nid oes gan y Cymry ddim mor deilwng o'i alw yn genhedlaethol a'u crefydd; dim y mae eu dyddordeb mor ddwfn ac mor gyffredinol ynddo; dim y maent wedi ac yn aberthu cymaint yn ewyllysgar er ei fwyn. Y mae ll'iosogrwydd eu haddoldai, ac amledd a phoblogrwydd eu cynnull- iadau creíyddol, yn dwyn tystiolaeth i'r llygaid o hyn. Ac y mae y rhai sydd mewn mantais i ymgydnabyddu á'u hysbryd yn gweled mai nid defodau ofergoelus, ffurfiol, diystyr, a difywyd, ydyw eu hymarferiadau crefyddol; ond fod o dan y cwbl raddau helaeth o ofn Duw, parch i'w air, a hyfrydwch calon yn ei wasanaeth. A pha ragoriaeth cymdeithasol bynag a berthyn i genedl y Cymry, y mae hi yn rhwymedig am dano i nerth y bywyd crefydctol a fu, ac sydd, yn gweithio ynddi. Fel ífrwyth ei chrélryddoider y mae hi yn sefyll yn gymhariaethol uchel mewn moesoldeb. Os ydyw hi yn "ofni Duw," y mae hyny yn peri ei bod "yn cilio oddiwrth ddrygioni." Y mae cofnodau ei llysoedd barn yn peri na all neb wahardd iddi yn yr ystyr hono ymgyfenwi yn " Gymru lán." Gellir yn gyíreithlawn ddadgan ammheuaeth a oes un genedi ar y ddaear yn cario cymeriad moesol mor lân, mor ddifrycheu- lyd, a chenedl y Cymry; ei glanach yn sicr nid oes; gogonedder Duw yn hyny! Nid yw y glendid hwn, fe addefir, yn cynnwys ond un ochr i foesoldeb, a hono yr ochr nacäol—ochr y "na ladd" yn hytrach na'r " ti a geri;" ond y mae hono yr ochr fwyaf canfyddadwy a hydeiml yn moesoldeb cenedl, a hwyrach yr unig ochr wrth yr hon y gellir seilio cymhariaeth â chenhedloedd eraill. Ac ar y cyfan y mae y casgiiad yn un diogel am ddynion a chenhedloedd byw, os ydynt yn peidio a gwneuthur drwg, eu bod yn dysgu gwneuthur daioni mewn rhyw gyfeiriad, a bod cyfartaledd rhwng y rhyddliàd oddiwrth y naill a'r ymroddiad i'r llall. Gwirionedd, ac nid gweniaith, yw y dystiolaeth hon am y Cyinry. Ond 1879—L b