Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRÀETHODYDD. DAELITHIAU Y PARCH. D. CHARLES DAVIES, M.A., AR GRISTIONOGAETH. Y DEYDEDD GYFEES. PERTHYNAS CRISTIONOGAETH A CHYFUNDRAETH COMTE.* I. SYLWADAU ARWEINIOL. G-AN mai perthynas Cristionogaeth â chyfundraeth Comte ydyw testun y Darlithiau canlynol, priodol yw rhoddi yn flaenorol i'r darllenydd hysbysrwydd o rai o brif nodweddion ei olygiadau. Ganwyd Comte yn Montpelier, Ffrainc, ar y 19eg o Ionawr, 1798. Bu farw ar y 5ed 0 Fedi, 1857, yn 59 mlwydd oed. Magwyd ef yn Eglwys Rhufain; ac er iddo encilio oddiwrthi, parhaodd i deimlo parch dwfn tuag ati hyd ddiwedd ei oes. Cynnaliai ei hun trwy ddarlithio ar Fesuroniaeth a Seryddiaeth. Traddododd ddarlithiau ar y pwnc olaf am 17 o flynydd- oedd. Treuliodd y rhan f wyaf o'i oes mewn tlodi mawr, yn gymaint felly fel yr oedd yn aml yn dyoddef eisieu bwyd ac heb fodd i'w brynn. Yroedd ei dlodi yn gysylltiedig â'r ífaith iddo gweryla â'i berthynasau ac â phawb y daeth i gysylltiad â hwynt; cwerylodd hyd yn nod â rhai o'i brif edmygwyr. Gellir priodoli hyn mewn rhan i anhwyldeb corfforol, ac mewn rhan i draha ysbryd. Y canlyniad o'r cyfuniad o effeithiau y ddau ydoedd iddo fyned bron yn annyoddefol i'r rhai a fuasent gyda'r hyfrydwch mwyaf yn barod i'w gynnorthwyo. Ennill- wyd ef oddiwrth grefydd ei dadau, i'r hon yr oedd ei holl berthynasau yn perthyn, trwy ddylanwad Socialist o'r enw Saint Simon. Ond ymhen amser ar ol eistedd wrth draed Saint Simon, fel dysgybl iddo, a dyfod 1 r cyfeillgarwch agosaf âg ef, ymysgydwodd yn llwyr oddiwrth ei olyg- ladau. Y canlyniad a fu i'r cyfeillion mynwesol fyned yn elynion • ^ ^oẅ'ad.—Dechreua y ddarlith hon gyfres newydd, a symudir oddiwrth olyg- Îm i-4.i " Herbert Spencer a Proffeswr Seeley at olygiadau Comte. Traddodwyd v aaarlith a'r rhai sj'dd i'w dilyn (fel y rhai blaenorol), i Gymdeithas Pobl Ieuainc Jewin Newydd.-E. Vincent Evans. 1887. N